Clydach

tref a chymuned yn Sir Abertawe

Tref fechan a chymuned yn Sir Abertawe, Cymru, yw Clydach (weithiau Clydach-ar-Dawe). Saif gerllaw traffordd yr M4. Mae tua chwarter y boblogaeth yn siarad Cymraeg. Gerllaw, saif pentref Craig Cefn Parc.

Clydach
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth7,503 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd848.01 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.69°N 3.91°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN689013 Edit this on Wikidata
Cod postSA6 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRebecca Evans (Llafur)
AS/au y DUCarolyn Harris (Llafur)
Map
Gweler hefyd Clydach (gwahaniaethu).

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rebecca Evans (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Carolyn Harris (Llafur).[2]

Poblogaeth

golygu

Pan agorwyd gwaith niceli Y Mond yn 1903 cynyddodd y boblogaeth yn enbyd. Dyma'r ffigurau poblogaeth sy'n cyfateb i un ardal o Glydach, sef Rhyndwyglydach:

Blwyddyn Poblogaeth
1801 722
1811 884
1821 948
1831 1,137
1841 1,438
1851 1,578
1861 1,720
1871 2,208
1881 3,529
1891 4,018
1901 4,462
1911 6,994
1921 8,789
1931 9,444
1951 9,214
1961 8,566

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Clydach (pob oed) (7,503)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Clydach) (1,466)
  
20.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Clydach) (6419)
  
85.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Clydach) (1,311)
  
40.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion o Glydach

golygu
  • David Emrys Evans (1891 - 1966), ysgolhaig clasurol a chyfieithydd.
  • Abiah Roderick (1898 - 1978), Bardd.
  • Sam Jones (1898 - 1974), darlledwr a chynhyrchydd radio.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]