Apêl Heddwch Menywod Cymru

deiseb dorfol o bron o 400,000 o enwau menywod Cymru i Arlywydd America yn galw am weithredu dros heddwch, 1924.

Roedd Apêl Heddwch Menywod Cymru yn fudiad torfol gan fenywod Cymru i ddod â diwedd i ryfela. Bu iddynt gyflwyno deiseb gyda bron 400,000 o enwau - oddeutu un trydydd o holl fenywod a merched Cymru ar y pryd.[1] Disgrifiwyd hanes 'ailddarganfod' yr Apêl a'r ddeiseb gan y BBC Cymru fel "stori ryfeddol ac ysbrydoledig - un a fu'n gudd am ddegawdau, cyn cael ei hail-ddarganfod drwy hap a damwain."[2] Cyhoeddwyd llyfr ar yr Apêl yn 2023, Yr Apêl-The Appeal 1923-24: The Remarkable story of the Welsh Women's Peace Petition wedi'i olygu gan Jenny Mathers a Mererid Hopwood.[3] Casglwyd yr enwau a theithio i'r Unol Daleithiau o fewn 7 mis.[4]

Apêl Heddwch Menywod Cymru
Enghraifft o'r canlynoldeiseb, ymgyrch wleidyddol Edit this on Wikidata
Idiolegheddychiaeth yng Nghymru, heddychiaeth Edit this on Wikidata
Daeth i ben1924 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1923 Edit this on Wikidata
Annie Jane Hughes Griffiths, Cadeirydd Cynghrair Cenhedloedd Cymru, yn dal Cofeb Heddwch Menywod Cymru y tu allan i’r Tŷ Gwyn yn Washington D.C., 1924, gyda Mrs Ruth Morgan, Miss Eluned Prys a Mrs Mary Ellis. Casgliadau T.I. Ellis, 1924

Cefndir golygu

Yn 1923, gydag erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf wedi ysbrydoli cenhedlaeth yn erbyn gwrthdaro, trefnodd merched Cymru ymgyrch nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen dros heddwch byd. Llofnododd 390,296 o ferched ddeiseb Goffa drwy Undeb Cynghrair y Cenhedloedd yn galw am ‘Cyfraith nid Rhyfel’ – i America ymuno, ag arwain y Cynghrair y Cenhedloedd newydd – drwy apelio at ferched America ‘o gartref i gartref’.

Goleuwyd Llyfr Coffa hyfryd mewn lledr a memrwn ac arno lythrennau aur gan Emily West. Fe’i cynhyrchwyd gan Gwasg Gregynog y chwiorydd Gwendoline Davies a Margaret Davies (y 'Chwiorydd Davies'). Hefyd, cist dderw fawr a grëwyd gan E J Hallam. Roedd yn cynnwys llofnodion i’w gyflwyno i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Calvin Coolidge, a’i gadw ‘er pob amser’ i Sefydliad y Smithsonian yn Washington. Roedd ymgyrch Deiseb Meddwch Merched 1923 ymdrech wir ryfeddol ledled Cymru oedd yn ymron yn cynnwys pob cartref yng Nghymru, gydag ymgyrchwyr heddwch yn mynd o ddrws i ddrws, gyda chymorth trefnwyr sir a chymuned y ‘Gynghrair’. Nododd y wasg yn Efrog Newydd fod y ddeiseb derfynol a gyflwynwyd i ferched America ragor na 7 milltir o hyd.[1]

Cyflwyno golygu

Bu gwragedd yn America wrthi'n brysur yn gwneud trefniadau i roi cyhoeddusrwydd i'r ddirprwyaeth. Prawf o ddoethineb dewis Annie i arwain y ddirprwyaeth oedd y derbyniad a gafodd ei hanerchiad i'r dorf: anerchiad a draddododd sawl gwaith i wahanol gymdeithasau yn ystod y daith, oherwydd nid Efrog Newydd oedd yr unig gyrchfan, gan y trefnwyd i'r gwragedd deithio wedyn i Washington, ac i'r Tŷ Gwyn, i gyfarfod â'r Arlywydd Calvin Coolidge. Dylid pwysleisio mai prif bwrpas y daith a'r ddeiseb oedd cysylltu menywod Cymru â menywod America. Naws anffurfiol oedd i'r cyfarfyddiad â'r Arlywydd, ac yr oedd y trefnwyr yn awyddus i bwysleisio mai digwyddiad anwleidyddol ac amhleidiol ydoedd, yn enwedig o gofio'r teimlad cryf dros ymynysiaeth yn yr Unol Daleithiau ar y pryd.[5]

Teithiodd dirprwyaeth, dan arweiniad Cadeirydd Cynghrair y Cenhedloedd Annie Jane Hughes Griffiths, o Gymru i America ym Mawrth 1924 ar ‘Daith Heddwch’ o’r Unol Daleithiau, a chafod gefnogaeth sefydliadau merched America oedd yn cynnwys rhagor na 20 miliwn o bobl. Fe ymunodd y 9 rhwydwaith/sefydliad yr oedd y ddirprwyaeth Gymreig yn gweithio ohoni, i ffurfio’r 'Conference on the Cause and Cure of War' yn ymateb i’r daith – a daeth yn hynod ddylanwadol mewn cymdeithas yn America yn sgil yr Ail Ryfel Byd.

Un o’r eitemau mwyaf a drysorir yn Archifau’r Deml Heddwch yw Deiseb Heddwch Merched, ochr yn ochr â chasgliadau gan Gynghrair y Cenhedloedd. Mae’r WCIA yn edrych ymlaen at weithio gydag eraill i ddathlu canmlwyddiant yr ymgyrch anhygoel yma yn 2023-24.[1]

Ail-gofio'r Hanes golygu

Yn 2014, yn ystod y gwaith ymchwil o sefydlu’r prosiect ‘Cymru dros Heddwch’, roedd Prif Weithredwr CMRhC, Martin Pollard, (daeth wedyn yn Brif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru) yn archwilio hen gyfrolau yn llyfrgell y Deml Heddwch. Darganfyddodd rwymiad o Ledr Moroco ag arno arysgrif haen aur cyfareddol:

YR APÊL: ODDIWRTH FERCHED CYMRU A MYNWY AT FERCHED UNOL DALEITHIAU YR AMERICA

THE MEMORIAL FROM WALES SIGNED BY 390,296 WOMEN IN WALES AND MONMOUTHSHIRE,

TO THE WOMEN OF THE UNITED STATES OF AMERICA

Apêl Ferched Cymru 1923-24

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2016 lansiodd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ‘gais am hanesion cudd’ gyda’r erthygl ‘Cofio hyrwyddwyr heddwch benywaidd Cymru’/ ‘Remembering Wales’ women peace builders’. Datgelodd gwirfoddolwyr ddeunyddiau o fewn Archifau’r Deml Heddwch, o fewn archifau Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol, a hyd yn oed o fewn hen ffilm newyddion gan Path o Bererindod Heddwch Merched Gogledd Cymru ym 1926. Trwy gyfrwng blogiau, prosiectau lleol ac ymchwil gan fyfyrwyr, daethpwyd â’r digwyddiadau rhwng y ddau ryfel byd ynghyd i greu ‘llinell amser’ o Weithredu dros Heddwch gan Ferched yn ystod y cyfnod hwnnw (1918-39).[6]

Cludo mewn Cist golygu

Cludwyd yr holl lofnodion mewn cist fawr o dderw Cymreig gan Mr J. A. Hallam. Yn dilyn gohebiaeth rhwng WCIA a’r Smithsonian yn 2016, cadarnhawyd fod y gist yn dal ymhlith y casgliadau yno, ac yn 2018, cafodd Jill Evans ASE gyfle i ymweld â’r Smithsonian fel rhan o ddirprwyaeth wleidyddol, a gweld y taflenni llofnodi oedd yn dal yn y gist.

Dirprwyaeth i America golygu

Ym mis Mawrth 1924, fe arweiniodd ‘ddirprwyaeth heddwch’ o dair dynes o Gymru i America: Mrs Annie-Jane Hughes Griffiths, Mrs Mary Ellis a Miss Eluned Prys:

  • Annie Jane Hughes Griffiths adnebir hefyd fel Annie Janes Hughes-Griffiths, Annie Jane Ellis ac yn anhygoel Mrs Peter Hughes Griffiths - Cadeirydd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru yng nghanol y 1920au. Yn ôl confensiwn y 1920au fodd bynnag, cyfeirir ati mewn cofnodion swyddogol gan enw ei gŵr, y Parch. Peter Hughes Griffiths (1871-1937), oedd yn Weinidog Methodistaidd Calfinaidd uchel ei barch o Sir Gaerfyrddin.
  • Mary Elizabeth Ellis - Yn wreiddiol o Ddolgellau yng Ngwynedd, Mrs Mary Elizabeth Ellis (sy’n ymddangos o archifau Annie i fod yn gyfaill agos hirsefydlog), oedd yr ail fenyw i gael ei phenodi yn Arolygydd Ysgolion yng Nghymru, ac roedd yn addysgwraig flaenllaw fyd-eang. Heblaw am y Ddeiseb Heddwch, mae Mary yn ymddangos mewn nifer o gofnodion o weithgareddau Undeb Cynghrair y Cenhedlaoedd Cymru yn ystod y cyfnod rhwng y ddau ryfel – roedd yn rhyng-genedlaetholwraig yn ei rhinwedd ei hun. Ar Ionawr 24 1942, priododd Mary â Gwilym Davies – Cyfarwyddwr Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru (a sylfaenydd Neges Heddwch ac Ewyllys Da Ieuenctid Cymru (Neges Ewyllus da yr Urdd bellach).
  • Eluned Prys (1895-1983) - Yn wreiddiol o Drefeca, Talgarth yn Sir Frycheiniog, mae Miss Elined Prys – a gaiff ei hadnabod yn well fel Elined Prys Kotschnig (mae’r sillafiad yn amrywio mewn cofnodion gan gynnwys Eluned/Elined, Prys/Pryce ac ambell gamsillafiad o Kotschnig) yn amlwg yn nyddiadur Annie am iddi briodi tua diwedd eu taith i America gyda Deiseb y Merched Dros Heddwch… a hynny “ag Iarll o Awstria!”. Ar ôl graddio mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Cymru, galwyd arni ym 1920 i arwain gwaith rhyddhad Mudiad Cristnogol Myfyrwyr y Byd, World Student Christian Movement, gyda ffoaduriaid o’r Rhyfel Byd Cyntaf, lle cyfarfu â Walter Kotschnig yn Fienna.[7]

Cyhoeddu llyfr golygu

Cyhoeddwyd llyfr ddwyieithog, Apel, Yr / Appeal, The: The Remarkable Story of the Welsh Women's Peace Petition 1923-24 Hanes Rhyfeddol Deiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-24 ym mis Hydref 2023. Golygwyd y llyfr gan y prifardd Mererid Hopwood a phennaeth Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Cymru, Jenny Mathers gyda chyfraniadau gan y gwleidydd, Jill Evans, Aled Eirug, yr hanesydd Catrin Stevens, ŵyres i Annie Janes Hughes Griffiths Meg Elis, yr hanesydd Siân Rhiannon Williams, Eirlys Barker, Annie Williams a Craig Owen.[8]

Manylion y llyfr golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Apêl Merched dros Heddwch, 1923-24". Gwefan Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Cyrchwyd 19 Ionawr 2024.
  2. "Ar drywydd hanes coll Deiseb Heddwch Menywod Cymru". BBC Cymru Fyw. 7 Mai 2023.
  3. "'Yr Apêl-The Appeal 1923-24: The Remarkable story of the Welsh Women's Peace Petition' - Wedi'i olygu gan Jenny Mathers a Mererid Hopwood". Gwefan Siop Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 19 Ionawr 2024.
  4. "Deiseb heddwch ar ei ffordd adref wedi canrif yn America". BBC Cymru Fyw. 29 Mawrth 2023.
  5. "Hughes Griffiths, Annie Jane". Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein. Cyrchwyd 22 Ionawr 2024.
  6. ""Ysbrydolwyd gan Annie": Hanes Apêl Merched dros Heddwch i America, 1924". Gwefan Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Cyrchwyd 19 Ionawr 2024.
  7. ""Ysbrydolwyd gan Annie": Hanes Apêl Merched dros Heddwch i America, 1924". Gwefan Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Cyrchwyd 19 Ionawr 2024.
  8. "Yr Apêl / The Appeal". Gwasg Y Lolfa. Cyrchwyd 29 Ionawr 2024.

Dolenni allanol golygu