Gwilym Gwyn ap Rhys Llwyd

Un o gefnogwyr Owain Glyn Dŵr oedd Gwilym (neu William) Gwyn ap Rhys Llwyd.

Bu'n swyddog amlwg yn arglwyddiaeth Cydweli ac yn gwasanaethu Dugiaeth Lancaster ac Arglwydd Cydweli.[1] Roedd yn dirfeddiannwr pwerus ac yn stiward yno yn y 1390au ac eto yn 1400-1.[2]

Cefnogodd Gwilym Gwyn Owain Glyn Dŵr yn ystod ei Wrthryfel fel Tywysog Cymru.[3]

Amddiffynnodd Gastell Aberystwyth ar ran Glyndŵr ac ni gafodd ei diroedd yn ôl ar ddiwedd y gwrthryfel.[4]

Yn 1456-57 cafodd ddirwy o £2 am beidio mynd i sesiwn Caerfyrddin. Doedd ganddo ddim tiroedd ac roedd yn rhentu yn Mallaen.[5]

Mae'n bosib mai ei fab oedd Rhys ap Gwilym Gwyn a'i ŵyr oedd Sir John Price.[6]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Davies, R. R. (2013-09-03). Owain Glyndwr - Prince of Wales (yn Saesneg). Y Lolfa. ISBN 978-1-84771-763-4.
  2. Davies, R. R. (1997-02-20). The Revolt of Owain Glyn Dwr (yn Saesneg). Oxford University Press. t. 155. ISBN 978-0-19-165646-0.
  3. Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. t. 138. ISBN 978-1-84990-373-8.
  4. Davies, R. R. (2000). The Age of Conquest: Wales, 1063-1415 (yn Saesneg). Oxford University Press. t. 457. ISBN 978-0-19-820878-5.
  5. Griffiths, Ralph A. (2018-05-15). The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government: South Wales 1277-1536 (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 19. ISBN 978-1-78683-266-5.
  6. Poole, Edwin (1886). The Illustrated History and Biography of Brecknockshire from the Earliest Times to the Present Day: Containing the General History, Antiquities, Sepulchral Monuments and Inscriptions ... ; Illustrated by Several Engravings and Portraits (yn Saesneg). author. t. 813.