John Price
Uchelwr ac ysgolhaig o Gymru oedd Syr John Price (1501/2 – 15 Hydref 1555). Mae'n enwog am iddo gyhoeddi'r llyfr argraffiedig cyntaf erioed yn yr iaith Gymraeg, sef Yn y lhyvyr hwnn (1546), Roedd yn frodor o Aberhonddu yn Sir Frycheiniog. Ei orwyr oedd y noddwr llenyddiaeth Syr Herbert Price.
John Price | |
---|---|
Bu farw | 15 Hydref 1555 |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr, llenor |
Swydd | Aelod o Senedd Ebrill 1554, Aelod o Senedd1547-1552, Aelod o Senedd 1553, Aelod o Senedd 1554-55 |
Adnabyddus am | Historiae Britannicae Defensio, Yn y lhyvyr hwnn |
Plant | Gregory Price |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Gyrfa
golyguCafodd yrfa hir fel gweinyddwr dan y Goron. O 1530 ymlaen, dan nawdd Thomas Cromwell, fe'i penodwyd i sawl swydd yn cynnwys y Notari Cyhoeddus ac Ysgrifennydd Cyngor Cymru a'r Gororau. Cymerodd ran flaenllaw yn y broses o ddiddymu'r mynachlogydd. Fel dal am ei waith cafodd sawl braint tir, yn cynnwys rhai o diroedd Priordy Aberhonddu. Ymsefydlodd o'r diwedd yn Swydd Henffordd.
Gwnaed ef yn farchog ar yr 22ain o Chwefror, 1546-7. Bu yn Uchel Sirydd dros Sir Frycheiniog yn 1541, a thros Sir Henffordd yn 1554, yn Aelod Seneddol dros Henffordd yn 1553, a thros Llwydlo yn 1554.
Llenor ac ysgolhaig
golyguFel llenor ac ysgolhaig roedd John Price yn perthyn i fudiad y Dyneiddwyr ac ysgol y Dadeni Dysg yng Nghymru. Roedd ganddo ddiddordeb mawr yn hanes Cymru a llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Casglai nifer o lawysgrifau hynafol. Roedd yn frwd o blaid gwaith Sieffre o Fynwy a ddaethai dan ymosodiad fel ffug-hanes gan ysgolheigion fel Polydore Vergil. Ysgrifennodd lyfr yn yr iaith Ladin ar y pwnc – yr Historiae Britannicae Defensio ('Amddiffyn hanes Prydain') – a gyhoeddwyd yn 1573 ar ôl ei farw. Ond fe'i cofir yn bennaf fel awdur Yn y lhyvyr hwnn, y llyfr Cymraeg argraffedig cyntaf.