William Rowland

ysgolfeistr ac awdur

Ysgolfeistr ac awdur oedd William Rowland (ganwyd William Rowlands; 16 Gorffennaf 188729 Rhagfyr 1979), a anwyd ym mhentref y Rhiw, ger Aberdaron, Gwynedd. Fe'i addysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a graddiodd yn BA yn 1910, ac enillodd ei MA am draethawd ar Tomos Prys o Blas Iolyn. Ar ôl gweithio fel ysgolfeistr yn Ne Cymru yn Nhredegar Newydd (1911-14), Abersychan (1915-20; treuliodd oddeutu 1917-18 yn y fyddin) ac Abertawe (1920-24). Yn 1924 fe'i penodwyd yn brifathro ysgol sir Porthmadog; arhosodd yn y swydd hyd ei ymddeoliad yn 1949.

William Rowland
Ganwyd16 Gorffennaf 1887 Edit this on Wikidata
Llanfaelrhys Edit this on Wikidata
Bu farw29 Rhagfyr 1979 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethathro, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Llyfryddiaeth golygu

  • Cawr yr Ogo a Straeon Eraill i Blant (1921)
  • Chwedlau Gwerin Cymru (1923)
  • Y Llong Lo (1924)
  • Llawlyfr Dysgu Cymraeg (1924 a 1927, dwy gyfrol; fersiwn diwygiedig 1930)
  • Bywyd ac Anturiaethau Robinson Crusoe (1928)
  • Ymarferion Cymraeg (1934)
  • Straeon y Cymry: Chwedlau Gwerin (1935)
  • Gwyr Eifionydd (1953)
  • Tomos Prys o Blas Iolyn (1564?-1634) (1964)

Cyfeiriadau golygu