Daniel Silvan Evans

geiriadurwr
(Ailgyfeiriad o D. Silvan Evans)

Offeiriad, geiriadurwr a bardd oedd Daniel Silvan Evans (11 Ionawr 181813 Ebrill 1903).

Daniel Silvan Evans
Ganwyd11 Ionawr 1818 Edit this on Wikidata
Llanarth Edit this on Wikidata
Bu farw12 Ebrill 1903 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgeiriadurwr, ieithydd, bardd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodMargaret Walters Edit this on Wikidata
PlantTegid Aneurin Evans, John Henry Silvan Evans Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganed ef yn Llanarth, Ceredigion, yn fab i Silvanus a Sarah Evans. Wedi cyfnod yn ysgol Neuaddlwyd, dechreuodd bregethu gyda'r Annibynwyr ac yn 1840 aeth i Goleg yr Annibynwyr yn Aberhonddu am gyfnod byr, cyn gweithio fel athro ysgol. Ymunodd â'r Eglwys, ac aeth i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan yn 1845-6, gan ddod yn ddarlithydd yn y Gymraeg yno yn 1847. Yn 1848 daeth yn gurad Llandegwning, ac ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1849.

Ymhlith y gweithiau a olygwyd gan D. Silvan Evans mae ei argraffiad o Gweledigaethau y Bardd Cwsc gan Ellis Wynne. Dechreuodd gyhoeddi An English and Welsh Dictionary yn 1847, gan orffen y gyfrol gyntaf yn 1852 a chyfrol 2 yn 1858. Bu'n olygydd Y Brython o 1858 i 1860. Bu'n gurad Llangian o 1852 hyd 1862, cyn cael ei benodi yn ficer Llanymawddwy, ac yn 1876 symudodd i fywoliaeth Llanwrin. Bu'n cynorthwyo yr ysgolhaig Albanaidd William Forbes Skene gyda Four Ancient Books of Wales, a chredir mai Evans a wnaeth lawer o'r gwaith mewn gwirionedd. Parhaodd i weithio ar ei Eiriadur, a chyhoeddwyd y gyfrol cyntaf, hyd y llythyren C, erbyn 1893 gyda chymorth ariannol Arglwyddes Llanover. Ni allodd orffen ei eiriadur; cyhoeddwyd y pumed rhan, yr olaf, hyd at y llythyren E, wedi ei farw.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Blodeu Ieuainc (1843)
  • Telynegion (1846)
  • Elfennau Gallofyddiaeth (1850)
  • Elfennau Seryddiaeth (1851)
  • Llythyraeth yr Iaith Gymraeg (1856)
  • Telyn Dyfi: Manion ar Fesur Cerdd
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: