Gwilym Prys-Davies
Sosialydd Cymreig oedd yr Arglwydd Gwilym Prys-Davies (8 Rhagfyr 1923 – 28 Mawrth 2017). Bu'n ymgeisydd y Blaid Lafur yn Is-etholiad Caerfyrddin, 1966, ond nid oedd yn llwyddiannus.
Gwilym Prys-Davies | |
---|---|
Ganwyd | 8 Rhagfyr 1923 ![]() Llanegryn ![]() |
Bu farw | 28 Mawrth 2017 ![]() |
Man preswyl | Pontypridd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi ![]() |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur ![]() |
Priod | Llinos Evans ![]() |
Bywyd cynnarGolygu
Ganwyd Gwilym Prys-Davies yn Llanegryn, Meirionnydd. Gwasanaethodd yn y llynges yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi hynny astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth ac aeth i weithio fel cyfreithiwr ym Mhontypridd yn 1956.
GyrfaGolygu
Daeth yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi ar 9 Chwefror 1983 a gwasanaethodd fel Arglwydd hyd nes iddo ymddeol fel Arglwydd ar 23 Mai 2015.
Bu'n llefaru ar faterion iechyd a Gogledd Iwerddon ar ran yr wrthblaid yn Nhy'r Arglwyddi yn ystod yr 1980au a 1990au. Gwasanaethodd fel llefarydd yr Wrthblaid yn Nhy'r Arglwyddi ar faterion Cymreig rhwng 1987 a 1997.
Bywyd personolGolygu
Cyfarfu ei wraig Llinos yn y brifysgol a bu'r ddau yn briod am dros 50 mlynedd hyd ei marwolaeth yn 2010. Bu farw ar 23 Mawrth 2017 yn 93 blwydd oed.[1]
Ysgoloriaeth Gwilym Prys DaviesGolygu
Gan ddechrau yn 2018 cynigiwyd Ysgoloriaeth Gwilym Prys Davies i fyfyriwr/aig o'r hen sir Feirionnydd neu bwrdeisdref sirol Rhondda, Cynon, Tâf sy'n astudio'r Gyfraith gyda elfen o'r Gymraeg yn un o brifysgolion Cymru.[2] Gweindyddir yr Ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
LlyfryddiaethGolygu
- Cynhaeaf Hanner Canrif: Gwleidyddiaeth Gymreig 1945-2005 (Gwasg Gomer, 2008)
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Yr Arglwydd Gwilym Prys-Davies wedi marw yn 93 oed , BBC Cymru Fyw, 29 Mawrth 2017.
- ↑ http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/astudio/cymorthariannol/ysgoloriaethgwilymprysdavies/