Llanegryn
Pentref, cymuned a phlwyf ym Meirionnydd, de Gwynedd, ar lan ddwyreiniol Dyffryn Dysynni yw Llanegryn ( ynganiad ). Mae'r pentref yn sefyll chwarter milltir i'r gogledd o lôn yr A493, tua 3 milltir i'r gogledd o Dywyn, ar lethrau isaf yr Allt-lwyd, y bryn cyntaf yn yr esgair hir o fryniau sy'n dringo i gyfeiriad Cadair Idris. Mae Afon Dysynni yn llifo heibio i waelod y pentref.
![]() | |
Math |
pentref, cymuned ![]() |
---|---|
| |
Cylchfa amser |
UTC±00:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Gwynedd ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
52.62°N 4.07°W ![]() |
Cod SYG |
W04000074 ![]() |
Cod OS |
SH600054 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) |
AS/au | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Mae pont fwa yn croesi ffrwd fechan ar ymyl y pentref. Ychydig o dai sydd yn y pentref ei hun ond ceir tri chapel yno ynghyd â'r eglwys hynafol sy'n sefyll ychydig o'r neilltu i'r pentref ei hun. Mae'r lôn sy'n rhedeg trwy'r pentref yn eich tywys i fyny'r dyffryn i gyfeiriad Castell y Bere a Llanfihangel-y-pennant.
Yr eglwysGolygu
Mae Eglwys y Santes Fair a Sant Egryn yn adeilad pur hynafol sy'n dyddio o'r 13g.[1] Eglwys un siambr ydyw gyda chlochdy bach yn y gorllewin. Prif ogoniant yr eglwys hon yw'r ysgrîn bren fendigedig sy'n dyddio o'r 15g; yn ôl traddodiad daeth i'r eglwys o Abaty Cymer, y tŷ Sistersiaidd ger Dolgellau. Ceir cofebion i aelodau o deulu Wynniaid Peniarth yn yr eglwys hefyd, e.e. yr un i Richard Owen (m. 1714).
Pobl o LanegrynGolygu
- Hugh Hughes (1863-1944) Cefnwr rygbi rhyngwladol i Gymru
Cyfrifiad 2011Golygu
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]
Lleoedd eraillGolygu
- Tomen Ddreiniog - hen domen o'r Oesoedd Canol; tua kilometr i'r de.
- Craig yr Aderyn - Bryn trawiadol ar ochr arall Dyffryn Dysynni gyda chlogwyn anferth sy'n gartref i hebogion, bilidowcars a gwylanod, er ei bod yn 6 milltir o'r môr. Ceir geifr gwyllt arno yn ogystal.
- Peniarth - Plasdy'r Wynniaid, tua milltir i'r dwyrain o'r eglwys.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Hanes Dyffryn Dysynni. BBC Cymru. Adalwyd ar 4 Mai 2012.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Abererch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abermaw · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Y Bala · Bangor · Beddgelert · Bethania · Bethel · Bethesda · Betws Garmon · Blaenau Ffestiniog · Boduan · Bontddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Caernarfon · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Cricieth · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolgellau · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Harlech · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Nefyn · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Penrhyndeudraeth · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Penygroes · Pistyll · Pontllyfni · Porthmadog · Portmeirion · Prenteg · Pwllheli · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-Ddu · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Talysarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tregarth · Tremadog · Tudweiliog · Tywyn · Waunfawr