Gwilym a Benni Bach
llyfr (gwaith)
Nofel Gymraeg yw Gwilym a Benni Bach gan William Llewelyn Williams. Cyhoeddwyd y nofel yn wreiddiol yn 1894, ac mae wedi'i ysgrifennu o safbwynt ewythr brodyr y teitl, sy'n dod i'w hadnabod drwy gyfres o anecdotau doniol a hoffus, ac wrth wneud yn syrthio mewn cariad â'u cymydog. Mae'r nofel i gyd wedi'i ysgrifennu yn nhafodiaith Dyffryn Tywi yn Sir Gaerfyrddin.
Clawr fersiwn 2024 gan Melin Bapur | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | William Llewelyn Williams |
Cyhoeddwr | Hughes a'i Fab (1894) Melin Bapur (2024) |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Pwnc | Nofelau Cymraeg |
Argaeledd | Mewn print |