William Llewelyn Williams

aelod seneddol, cyfreithiwr, ac awdur

Lua error in package.lua at line 80: module 'Module:Navbar/configuration' not found.

Roedd W Llewelyn Williams (10 Mawrth 1867-22 Ebrill 1922), yn newyddiadurwr, bargyfreithiwr a llenor o Gymru a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Bwrdeistref Caerfyrddin rhwng 1906 a 1918[1]

Bywyd personol

golygu

Ganwyd Williams yn Brownhill, Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin yn ail fab i Morgan Williams a Sarah (née Davies) ei wraig.

Roedd ei deulu yn un oedd wedi bod yn flaenllaw yn achos enwad Cristionogol yr Annibynwyr am flynyddoedd. Roedd tad-cu Williams, Morgan Williams, yn ddiacon yng Nghapel Isaac, Llandeilo. Roedd y Parchedigion John Williams (1819-1869) gweinidog Annibynnol Llangadog, Castellnewydd Emlyn a Chapel Iwan a Benjamin Williams (1830-1886) a fu'n gwasanaethu yn Nowlais, Dinbych ac Abertawe yn ewythrod iddo.

Addysgwyd Williams yng Ngholeg Llanymddyfri a Choleg y Trwyn Pres, Rhydychen. Yn Rhydychen, bu yn un o aelodau cynnar Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, cymdeithas Cymraeg i fyfyrwyr prifysgolion y ddinas. Ymysg ei gyd aelodau o'r gymdeithas bu O. M. Edwards, John Morris-Jones, Edward Anwyl, John Puleston Jones a Daniel Lleufer Thomas[2]

Ar 30 Rhagfyr 1891 ymbriododd ag Elinor (Nelly) Jenkins, Glansawdde, merch James Jenkins, un o aelodau cyntaf Cyngor Sir Caerfyrddin.[3] Canodd Syr John Morris Jones Cywydd i ddathlu'r briodas.[4]

Gwybodaeth

golygu
  • Golygydd cyntaf The South Wales Post, papur newydd Radicalaidd yn Abertawe, ydoedd, ond rhoes y gorau i newyddiaduraeth a throi at y gyfraith yn 1897.
  • Diddordebau: hanes, cenedlaetholdeb Cymreig, gwleidyddiaeth Rhyddfrydol.
  • Aelod Seneddol dros Fwrdeistrefi Caerfyrddin 1906-1918
  • Bargyfreithiwr (1912) ac arweinydd cylchdaith De Cymru. Gofiadur Abertawe (1914-15) a Chaerdydd (1915-22).
  • Fel gohebydd brwydrai yn erbyn barnwyr uniaith Saesneg a bu’n gynhaliwr brwd dros ddatgysylltu’r Eglwys a Hunanlywodraeth.

Heddychwr ond cefnogodd y Rhyfel yn 1914. Ond torrodd pob cysylltiad â David Lloyd George a’r Blaid Ryddfrydol. Safodd yn erbyn y Rhyddfrydwyr yn 1921.

Gwaith llenyddol

golygu

Gw. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986), t.640

Cyfeiriadau

golygu
  1. Y Bywgraffiadur WILLIAMS, WILLIAM LLEWELYN (1867 - 1922), aelod seneddol, cyfreithiwr, ac awdur adalwyd 16 Rhagfyr 2017
  2. Kenneth O. Morgan Rebirth of a Nation: Wales, 1880-1980, History of Wales cyf. 6 (Oxford University Press, 1981), t.100
  3. Cardiff Times 2 Ionawr 1892 Marriage of Mr W. Llewelyn Williams
  4. Cywydd Priodas W. Llewelyn Williams: Jones-Morris, John; Caniadau; Rhydychen; Fox Jones, Kemp Hall; 1907
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Alfred Davies
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin
19061918
Olynydd:
diddymwyd yr etholaeth

Lua error in package.lua at line 80: module 'Module:Navbar/configuration' not found.

  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.