Mae gwiriwr pwysau (atalbwyswr, pwyswr) yn berson sy'n gyfrifol am bwyso glo neu sylwedd arall wedi'i gloddio, a thrwy hynny bennu'r taliad sy'n ddyledus i bob gweithiwr.

Gwiriwr pwysau yn Kentucky UDA

Mewn llawer o byllau glo, roedd gweithwyr yn cael eu talu yn ôl pwysau'r glo roeddent yn ei fwyngloddio. Yn hanesyddol, roedd yn anymarferol pwyso'r glo nes ei fod wedi'i gludo i'r wyneb, ac felly roedd angen lefel uchel o ymddiriedaeth yn y system. Yn aml cyhuddwyd gwirwyr a benodwyd gan reolwyr y pwll glo o danamcangyfrif pwysau, neu hyd yn oed o weithio gyda chloriannau yr oeddent yn gwybod eu bod yn cynhyrchu gwerthoedd anghywir.[1]

O ganol y 19eg ganrif, bu symudiad mewn llawer o wledydd ymhlith glowyr a'u hundebau llafur i wneud swydd y gwiriwr pwysau yn un etholedig. Enillwyd yr hawl hon yn y Deyrnas Unedig ym 1860 er, hyd at 1887, gallai cwmnïau ryddhau gwiriwr nad oeddent yn ei hoffi, gan leihau annibyniaeth y rôl.[2] Er bod y swydd yn fwyaf cyffredin, o bell ffordd, mewn pyllau glo, fe'i defnyddiwyd weithiau mewn chwareli a mwyngloddiau eraill.

Mewn pyllau mawr, byddai nifer o wirwyr yn cael eu defnyddio, a allai hefyd wirio gwaith ei gilydd, ac weithiau bu wirwyr cynorthwyol a allai gael eu hethol neu eu penodi.

Oherwydd bod gwiriwr wedi ei ethol a bod gweithwyr y pwll yn ymddiried ynddo, roedd y swydd yn aml yn cael ei dal gan bobl a ddaeth yn undebwyr llafur neu'n wleidyddion amlwg. Yn aml, roedd dyletswyddau ychwanegol yn cael eu cyfuno â'r swydd; er enghraifft, yn y DU, rhoddwyd hawl i wirwyr pwysau weithredu fel Arolygwyr Mwyngloddiau, gan gynyddu eu grym yn y lle gwaith.[3]

Gwirwyr amlwg golygu

Bu nifer o Gymry a daeth yn ffigyrau amlwg ym mywyd gwleidyddol a chymdeithasol Cymru yn gwasanaethu fel gwirwyr pwysau gan gynnwys:

Cyfeiriadau golygu

  1. Archaeologia Cambrensis, 1900 Cyf 84, (1929).The North Wales coal industry during the Industrial Revolution adalwyd 23 Tachwedd 2020
  2. Griffin, Alan Ramsey (1971). Mining in the East Midlands, 1550-1947. Llundain: Cass. tt. 82–83. ISBN 0-7146-2585-X. OCLC 247241.
  3. "MR WILSON MP AND THE GARW MINERS - The Western Mail". Abel Nadin. 1892-10-14. Cyrchwyd 2020-11-23.