Charles Edwards (AS Bedwellte)
Roedd y Gwir Anrhydeddus Syr Charles Edwards, 19 Chwefror, 1867 – 15 Gorffennaf 1954 yn undebwr llafur ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Llafur Bedwellte rhwng 1918 a 1950.[1]
Charles Edwards | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 19 Chwefror 1867 ![]() Gravel ![]() |
Bu farw | 15 Mehefin 1954 ![]() Dyffryn Sirhywi ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur ![]() |
Gwobr/au | CBE, Marchog Faglor ![]() |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Edwards ym mhentrefan Gravel ger Llangynllo Sir Faesyfed, yn fab i John Edwards, gwas ffarm a Catherine (née Jones) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Genedlaethol, Llangynllo.[1]
Ym 1885 priododd Margaret Ann merch William a Jane Davies, Abercarn. Bu iddynt fab a merch.
Undebwr Llafur
golyguYmadawodd Edwards a'r ysgol yn 12 mlwydd oed ac aeth i weithio fel gwas ffarm cyn symud i Sirhywi i weithio yn y pyllau glo ym 14 mlwydd oed. Aeth o Sirhywi i weithio mewn pwll yn Abercarn cyn setlo yn Rhisga ym 1890.
Bu'n trysorydd cyfrinfa'r glowyr yn Rhisga cyn cael ei ethol yn bwyswr (un oedd yn gwirio pwysau'r glo a gloddiwyd ar ran y gweithwyr er mwyn sicrhau eu bod yn cael cyflog teg am eu gwaith) ym Mhwll Nine Mile Point. Ym 1911 fe'i holynodd Vernon Hartshorn fel aelod o bwyllgor gweithredol Ffederasiwn Glowyr De Cymru. Ym 1914 fe'i penodwyd yn Asiant Cynorthwyol Ffederasiwn Glowyr De Cymru ar gyfer ardal Tredegar, gan weithio fel dirprwy i Alfred Onions prif asiant yr ardal.[2]
Gyrfa Wleidyddol
golyguGwasanaethodd Edwards fel cynghorydd ar Gyngor Ardal Ddinesig Rhisga o 1903, gan gynnwys cyfnod yn cadeirio'r cyngor [2]. Ym 1915 fe'i hetholwyd yn aelod o Gyngor Sir Fynwy.[3] Cafodd ei ethol fel aelod cyntaf etholaeth newydd Bedwellte yn etholiad cyffredinol 1918, gan dal y sedd i'r Blaid Lafur hyd ei ymddiswyddiad o'r Senedd ar adeg etholiad cyffredinol 1950. Yn y senedd bu'n gwasanaethu fel chwip i'w blaid o 1929 hyd 1942 gan gynnwys bod yn brif chwip o 1931 i 1942.[1]
Anrhydeddau
golyguFe'i hurddwyd yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig ym 1931 ac yn Farchog Baglor ym 1935 [4]. Daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ym 1940.
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref yn Rhisga yn 87 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Tan y graig.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (2007, December 01). Edwards, Rt Hon. Sir Charles, (19 Feb. 1867–15 June 1954), JP; MP (Lab.) Bedwelty Division of Monmouthshire, December 1918–50; Miners’ Agent. WHO'S WHO & WHO WAS WHO adalwyd 7 Mawrth 2019
- ↑ 2.0 2.1 New Sub Agent - Mr Charles Edwards Western Mail - 04 Mehefin 1914
- ↑ Monmouthshire Council Vacancy Western Mail - 16 Chwefror 1915
- ↑ The Gazette Rhif:15180 Tud.:482
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol | Olynydd: Harold Finch |