Thomas Mardy-Jones

economegydd a gwleidydd

Roedd Thomas Isaac Mardy-Jones (21 Ionawr 1879 - 26 Awst 1970) yn löwr, awdur, economegydd a gwleidydd Plaid Lafur Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol etholaeth Pontypridd o 1922 hyd 1931.[1]

Thomas Mardy-Jones
Ganwyd21 Ionawr 1879 Edit this on Wikidata
Brynaman Edit this on Wikidata
Bu farw26 Awst 1970 Edit this on Wikidata
Harold Wood Hospital Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Coleg Ruskin Edit this on Wikidata
Galwedigaetheconomegydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu
 
Myfyrwyr Ysgoloriaeth Ffederasiwn Glowyr De Cymru yng Ngholeg Ruskin 1908

.

Ganwyd Jones ym Mrynaman, Sir Gaerfyrddin yn fab i Thomas Isaac a Gwen Jones.[2] Cafodd ei addysg yn ysgol y bwrdd Trerhondda cyn dechrau gweithio fel glöwr yn 12 oed. Gan fod ei dad a'i dau dad-cu wedi marw mewn damweiniau yn y pyllau glo, roedd dyletswydd arno i ennill digon i gefnogi teulu o chwech. Serch hynny, llwyddodd i fynd i Goleg Ruskin, Rhydychen, i astudio hanes gwleidyddol ac economaidd am ddwy flynedd. Wedi iddo ddychwelyd i Gymru, llwyddodd i berswadio Ffederasiwn Glowyr De Cymru i gynnig deg ysgoloriaeth i'r coleg ar gyfer glowyr. Bu hefyd yn dadlau o blaid diwygio Coleg Ruskin rhag ymosodiadau arni gan bobl megis Noah Ablett [3] un o'r glowyr a derbyniodd un o'r ysgoloriaethau newydd. Roedd Ablett ac eraill yn dadlau bod y coleg yn dechrau colli ei statws fel coleg i lafurwyr trwy gael cysylltiadau rhy agos efo Prifysgol Rhydychen.

Gyrfa wleidyddol

golygu

Dechreuodd Mardy-Jones ei yrfa wleidyddol fel darlithydd yn ne Cymru i'r Blaid Lafur Annibynnol. Ym 1907, cymerodd swydd pwyswr, fodd bynnag dioddefodd damwain llygad ym 1908 wrth drin gwn [4] a arweiniodd iddo golli ei lygad chwith. Ym 1909 daeth yn asiant seneddol Ffederasiwn Glowyr De Cymru a bu'n gweithio fel asiant etholiadol ymgeiswyr llafur yn etholaethau Rhondda, Dwyrain Morgannwg, a Merthyr [5].

Yn etholiad cyffredinol 1918 ymgeisiodd Jones am enwebiad y Blaid Lafur i fod yn ymgeisydd yn etholaeth Ddwyrain Rhondda ond collodd yr enwebiad i David Watts-Morgan [6]

Cynhaliwyd isetholiad yn etholaeth Pontypridd ar 25 Gorffennaf 1922 o ganlyniad i benodi'r deiliad, yr AS Rhyddfrydol y Glymblaid, Thomas Arthur Lewis, yn Arglwydd Iau'r Trysorlys. Rhwng 1801 a 1926, pan fyddai AS yn cael ei ddyrchafu i swydd yn y llywodraeth am y tro cyntaf, roedd rhaid cynnal isetholiad [7] i sicrhau bod yr etholwyr yn fodlon iddo weithio i'r llywodraeth yn ogystal â'r etholaeth. Cipiodd Mardy-Jones y sedd oddi wrth Lewis a'r Rhyddfrydwyr. Roedd yn un o ddim ond wyth isetholiad gweinidogol yn y DU na chafodd ei gadw gan y deiliad.

Talebau Rheilffordd

golygu

Ym 1924 cyflwynodd y Llywodraeth Lafur cynllun lle byddai Aelodau Seneddol yn derbyn talebau rheilffordd, byddai modd eu cyfnewid am docynnau deithio rhwng Llundain ac etholaeth yr AS. Roedd rheol glir mae dim ond tocynnau ar gyfer teithiau gan yr AS gellid prynu gyda'r talebau. Ym mis Rhagfyr 1930 rhoddodd Jones bâr o docynnau rheilffordd i'w wraig a'i ferch 12 oed, oedd wedi eu prynu gyda thalebau seneddol. Trwy gamgymeriad danfonodd Mardy-Jones docyn 6 mis oed a oedd bellach allan o ddyddiad i'w wraig a gwrthododd y gwiriwr y tocynnau ei dderbyn. Mynnodd Mrs Jones bod y gwiriwr wedi gwneud camgymeriad gan fod y tocynnau wedi dod gan ei ŵr oedd yn Aelod Seneddol. Cafodd Mrs Jones ei chyhuddo o'r trosedd o deithio ar drên heb fod a thocyn dilys yn ei meddiant. Wedi i ymchwiliad dangos bod y tocynnau wedi eu prynu gyda thalebau Seneddol cafodd Mardy-Jones ei gyhuddo o gynorthwyo ei wraig i gyflawni trosedd. Plediodd y ddau yn euog i'r cyhuddiad a chawsant eu dirwyo £2 yr un gyda chostau ychwanegol o £31/10/- neu 42 diwrnod yn y carchar i Mr Jones, talodd y costau.[8] Cafodd ei orfodi i ymddiswyddo ac enillodd David Lewis Davies y sedd yn yr isetholiad canlynol.[9] Ychydig fisoedd wedi'r isetholiad cynhaliwyd Etholiad Cyffredinol 1931 a safodd Jones yr etholiad fel ymgeisydd llafur Annibynnol. Enillodd dim ond 1,110 o bleidleisiau gan orffen yn y trydydd safle.[10]

Bywyd diweddarach

golygu

Rhwng 1928 a 1946, astudiodd Mardy Jones yn India, De'r Affrica a'r Dwyrain Canol. O ganlyniad, gweithiodd yn y Dwyrain Canol fel Swyddog Addysg a Lles i'r lluoedd Prydeinig a leolwyd yno 1945-46, yn dilyn swydd yn y Weinyddiaeth Gyflenwi fel Swyddog Staff 1942-44. Yn ddiweddarach enillodd boblogrwydd fel darlithydd cyhoeddus ar faterion tramor, yn enwedig yn ymwneud ag India a'r Dwyrain Canol. Daeth yn ddarlithydd economeg swyddogol y Bwrdd Glo Cenedlaethol ar ôl iddo gael ei ethol yn FREcon.S.

Llenor

golygu

Ysgrifennodd Mardy Jones nifer o gyfrolau ar ddiwygio'r system ardrethu a llywodraeth leol, gan gynnwys Character, coal and corn — the roots of British power(1949) ac India as a future world power (1952).

Bywyd personol

golygu

Priododd Thomas â Margaret, merch John Moredecai, ym 1911, a bu iddynt ddwy ferch. Gwahanodd y cwpl ym mis Medi 1933.

Marwolaeth

golygu

Bu farw Thomas Isaac Mardy Jones ar 26 Awst 1970, yn 90 mlwydd oed, yn Ysbyty Harold Wood, Essex.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "MARDY-JONES, THOMAS ISAAC (1879 - 1970), economegydd a gwleidydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-09-28.
  2. "Mardy Jones, Thomas Isaac, (died 26 Aug. 1970) | WHO'S WHO & WHO WAS WHO". www.ukwhoswho.com. doi:10.1093/ww/9780199540891.001.0001/ww-9780199540884-e-55058. Cyrchwyd 2019-09-28.
  3. Llafur the journal of the Society for the Study of Welsh Labour History; Cyf 2, Rhif 1, Gwanwyn 1976; Richard Lewis: THE SOUTH WALES MINERS AND THE RUSKIN COLLEGE STRIKE OF 1909
  4. "Accident to Mr T MardyJones - The Rhondda Leader". William David Jones. 1908-04-25. Cyrchwyd 2019-09-28.
  5. "NEW REGISTRATION AGENT - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1909-10-09. Cyrchwyd 2019-09-28.
  6. "Mardy Jones for East Rhondda Division - Pioneer". s.t. 1918-03-09. Cyrchwyd 2019-09-28.
  7. Participation, Expert. "Succession to the Crown Act 1707". www.legislation.gov.uk. Cyrchwyd 2019-09-28.
  8. Kevin Maguire, Mathew Parris (2004). Great parliamentary scandals : five centuries of calumny, smear and innuendo. London: Robson. t. 110. ISBN 1861057369. OCLC 56448525.
  9. Shaw, Peter (3 Mai 2008). "The Northern Herald: Thomas Isaac Mardy Jones MP". The Northern Herald. Cyrchwyd 2019-09-28.
  10. David Howell, Keith Gildart. Dictionary of labour biography. Volume XIII. Basingstoke. ISBN 9780230293489. OCLC 953450684.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Thomas Arthur Lewis
Aelod Seneddol

Pontypridd
19221931

Olynydd:
David Lewis Davies