Ted Williams

gwleidydd

Roedd Syr Edward (Ted) John Williams, (1 Gorffennaf, 189016 Mai, 1963) yn undebwr llafur a gwleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Llafur Ogwr rhwng 1931 a 1946. Bu hefyd yn gwasanaethu fel Uchel Gomisiynydd Awstralia rhwng 1946 a 1952.[1]

Ted Williams
Ganwyd1 Gorffennaf 1890 Edit this on Wikidata
Glynebwy Edit this on Wikidata
Bu farw16 Mai 1963 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Y Coleg Llafur Canolog Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiplomydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Uchel Gomisiynydd y DU i Awstralia Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Y Swyddfa Dramor Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog-Cadlywydd Urdd Saint Mihangel a Sant Siôr Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Ganwyd Williams yng Nglyn Ebwy yn fab i Emanuel Williams a Ada (née James) ei wraig.

Cafodd ei addysgu yn ysgol wirfoddol Victoria ac ysgol elfennol Trehopcyn. Ymadawodd a'r ysgol yn 12 mlwydd oed. Ond yn ddiweddarach aeth i'r Coleg Llafur Canolog i hyfforddi i fod yn athro.

Ym 1916 priododd Evelyn, merch David James, Pontypridd. Bu iddynt ddwy ferch.[2]

Gyrfa golygu

Ym 1902, yn 12 mlwydd oed dechreuodd Williams i weithio yng nglofa Waunllwyd. Bu'n mynychu dosbarthiadau nos i ddysgu economeg wleidyddol a chadw llyfrau cyfrifon.[3] Ym 1909 fe'i penodwyd yn ysgrifennydd i gwmni Great Western Collieries gan gadw'r swydd hyd 1913. Ym 1914 aeth yn fyfyriwr i'r Coleg Llafur Canolog. Wedi ei gyfnod yn y coleg dychwelodd i Gymru i fod yn ddarlithydd rhanbarthol i'r coleg. Oherwydd bod gymaint o'r dynion ifanc byddai'n mynychu cyrsiau mi nos y coleg wedi ymuno a'r fyddin neu'n gwneud gweithgareddau eraill cysylltiol a'r Rhyfel Byd Cyntaf bu lleihad yn y nifer o efrydwyr a diswyddwyd Williams ym 1916. Ym 1917 dychwelodd i weithio fel glöwr gan gael ei ethol yn bwyswr (un oedd yn gwirio pwysau'r glo a gloddiwyd ar ran y gweithwyr er mwyn sicrhau eu bod yn cael cyflog teg am eu gwaith) ym 1918.

Ym 1919 penodwyd Williams yn asiant Ffederasiwn Glowyr De Cymru ar gyfer adran y Garw.

Gyrfa Wleidyddol golygu

Ym 1928 etholwyd Williams i Gyngor Sir Forgannwg gan barhau'n aelod hyd 1931. Ym 1931 bu farw Vernon Hartshorn Aelod Seneddol Ogwr a dewiswyd Williams fel ymgeisydd y Blaid Lafur i ymladd yr isetholiad i ethol olynydd iddo. Llwyddodd Williams i gadw'r sedd gyda 78.8% o'r bleidlais.

Gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat i'r Is-ysgrifennydd dros y Trefedigaethau, rhwng 1940 a 1941, i Ysgrifennydd Cyllid y Morlys o 1942 i 1943 ac i'r Is-ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor o 1943 i 1945. Bu'n Weinidog Gwybodaeth rhwng 1945 a 1946 ac yn rhinwedd y swydd fe'i dyrchafwyd i'r Cyfrin Gyngor ym 1945.

Ymadawodd ar Senedd ym 1946 wedi ei benodiad i swydd Uchel Gomisiynydd y Deyrnas Unedig i Awstralia. Uchel Gomisiynydd yw prif swyddog diplomyddol un aelod o'r Gymanwlad i un arall, mae'n gyfystyr a bod yn llysgennad i wlad tu allan i'r Gymanwlad.[4] Parhaodd yn y swydd hyd 1952.

Wedi ymadael a swydd yr Uchel Gomisiynydd ym 1952 fe'i dyrchafwyd yn farchog yn Urdd San Fihangel a San Siôr.

Marwolaeth golygu

Bu farw yn ei gartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr a llosgwyd ei weddillion yn amlosgfa Thornhill.

Cyfeiriadau golygu

  1. Jones, J. G., (1997). WILLIAMS, Syr EDWARD JOHN (TED; 1890 - 1963), gwleidydd. Y Bywgraffiadur Cymreig adalwyd 14 Chwefror 2019
  2. (2007, December 01). Williams, Rt Hon. Sir Edward John, (1890–16 May 1963), JP Glamorgan; JP for NSW, Australia, 1950. WHO'S WHO & WHO WAS WHO adalwyd 13 Chwefror 2019
  3. Llafur, Cyf 8, Rhif 1, 2000 adalwyd 13 Chwefror 2019
  4. Diplomacy with a Difference: The Commonwealth Office of High Commissioner, 1880-2006, Lorna Lloyd (awdur); Martinus Nijhoff (cyhoeddwyr) 2007; ISBN 9004154973
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Vernon Hartshorn
Aelod Seneddol Ogwr
19311946
Olynydd:
Edward John Evans