Gwladwriaeth gysylltiedig

Gwladwriaeth a chanddi statws arbennig yw gwladwriaeth gysylltiedig sydd yn ddibynnol i raddau mawr ar wladwriaeth arall, fel rheol mewn materion tramor ac amddiffyn. Mae gan y wladwriaeth felly ddiffyg o ran sofraniaeth, er ei bod yn meddu ar ymreolaeth dros ei gwleidyddiaeth fewnwladol.[1]

Y ddwy enghraifft amlycaf o wladwriaethau cysylltiedig cyfoes yw Niue ac Ynysoedd Cook, ill dau yn wledydd yn y Cefnfor Tawel sydd yn gysylltiedig â Seland Newydd. Mae tair gwlad arall yn y Cefnfor Tawel – Palaw, Taleithiau Ffederal Micronesia, ac Ynysoedd Marshall – sydd mewn "cysylltiad rhydd" ag Unol Daleithiau America, ond yn meddu ar sofraniaeth lawn ac yn aelodau'r Cenhedloedd Unedig.

Yn 1967, rhoddwyd statws gwladwriaeth gysylltiedig i bump o drefedigaethau'r Deyrnas Unedig yn y Caribî: Antiga (27 Chwefror), Dominica (1 Mawrth), Grenada (3 Mawrth), Sant Kitts-Nevis-Anguilla (27 Chwefror), a Saint Lucia (1 Mawrth). Ar 27 Hydref 1969, rhoddwyd y statws hwn hefyd i Saint Vincent. Erbyn 1983, yn sgil trafodaethau rhwng llywodraethau'r ynysoedd â'r Deyrnas Unedig, rhoddwyd annibyniaeth i bob un ohonynt – Antiga a Barbwda, Dominica, Grenada, Sant Kitts-Nevis, Sant Lwsia, a Sant Vincent a'r Grenadines – ac eithrio Anguilla, sydd yn parhau yn diriogaeth dramor ers i luoedd Prydeinig atal gwrthryfel yno yn 1969.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. G. R. Berridge ac Alan James, A Dictionary of Diplomacy (Basingstoke: Palgrave Macmillan, 2003), t. 14.
  2. Kenneth J. Panton, Historical Dictionary of the British Empire (Lanham, Maryland: Rowman & Littlefield, 2015), t.41