Gwlff Cadiz
Defnyddir y term Gwlff Cadiz (Sbaeneg: Golfo de Cádiz) i gyfeirio at y rhan arfordirol o Gefnfor Iwerydd sy'n gorwedd, yn fras, rhwng dinas Faro ym Mhortiwgal a dinas Cadiz yn Sbaen. Rhed dwy afon fawr i'r môr yno, Afon Guadalquivir ac Afon Guadiana, yn ogystal ag afonydd llai Odiel a Guadalete.
Math | gwlff |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gogledd Cefnfor yr Iwerydd |
Sir | Algarve, Andalucía |
Gwlad | Sbaen Portiwgal |
Cyfesurynnau | 36.78°N 7.23°W |