Gwlff Gabès
(Ailgyfeiriwyd o Gwlff Gabes)
Bae agored o'r Môr Canoldir yw Gwlff Gabès (Arabeg: خليج قابس), sy'n gorwedd oddi ar arfordir de canolbarth Tiwnisia yng Ngogledd Affrica. Yr enw arno yng nghyfnod yr Henfyd oedd Minor Syrtis (Lladin).
![]() | |
Math | gwlff ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Sea of Sicily ![]() |
Gwlad | Tiwnisia ![]() |
Cyfesurynnau | 34.22°N 10.62°E ![]() |
![]() | |
Fe'i enwir ar ôl dinas hynafol Gabès, a leolir ger yr arfordir yn nhalaith Gabès, tua 400 km i'r de o Tiwnis, prifddinas Tiwnisia.
Gorwedd Ynysoedd Kerkennah a dinas Sfax ym mhen gogleddol y gwlff ac mae ynys Djerba yn dynodi ei ben deheuol. Ei lled yw tua 200 km.
Yn ogystal â Gabès a Sfax, mae'r trefi ar neu ger arfordir Gwlff Gabès yn cynnwys Mahrès, Skhira a Jorf.