Port Moresby
Prifddinas a dinas fwyaf Papua Gini Newydd yw Port Moresby (Tok Pisin: Pot Mosbi). Lleolir ar arfordir dwyreiniol Harbwr Port Moresby yng Ngwlff Papua.
Math | dinas â phorthladd, dinas fawr, tref/dinas, administrative territorial entity of Papua New Guinea |
---|---|
Enwyd ar ôl | John Moresby |
Poblogaeth | 317,374 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+10:00 |
Gefeilldref/i | Townsville, Jinan |
Daearyddiaeth | |
Sir | Papua Gini Newydd |
Gwlad | Papua Gini Newydd |
Arwynebedd | 240 km² |
Uwch y môr | 35 ±1 metr |
Gerllaw | Gwlff Papua |
Cyfesurynnau | 9.4789°S 147.1494°E |
Cod post | 111 |
PG-NCD | |
Mae gan y ddinas ddwysedd poblogaeth uchaf y wlad o lawer, sy'n cynnwys cymuned Tsieineaidd. Mae nifer sylweddol o drigolion yn byw mewn trefi cytiau a sgwatiau ar gyrion y ddinas. Amcangyfrifir bod 337,900 o drigolion gan Port Moresby yn 2004,[1] a 343,000 yn 2011,[2] a mwy na 400,000 yn 2014.[3][4]
Lleolir adeiladau'r llywodraeth yng nghanol y ddinas ac yn y maestrefi. Daw cyflenwad dŵr o Afon Laloki, a saif gorsaf trydan dŵr ar yr afon. Mae ffyrdd yn cysylltu Port Moresby i Sogeri, Kwikila, a Rhaeader Rouna, a cheir gwasanaethau cludo nwyddau ar longau i borthladdoedd eraill gan gynnwys Sydney.[1]
Mae gan Port Moresby gyfraddau uchel o dor-cyfraith, ac ystyrir yn un o'r dinasoedd sy'n waethaf ei byw ynddi yn y byd.[3][5][6][7]
Hanes
golyguCyn dyfodiad yr Ewropeaid, y pobloedd Motu a Koitabu oedd trigolion yr ardal. Pysgota a thyfu iamau oedd eu bywoliaeth a buont yn masnachu gyda threfi eraill ar hyd yr arfordir. Ymwelodd y Capten John Moresby â'r ardal ym 1873 ac enwodd dwy adran y harbwr yn Fairfax a Moresby, ar ôl ei dad y Llyngesydd Syr Fairfax Moresby. Cafodd yr ardal ei gyfeddiannu gan yr Ymerodraeth Brydeinig ym 1883–84, a Port Moresby oedd enw poblogaidd y dref. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd daeth yn un o brif ganolfannau'r Cynghreiriaid yn y Cefnfor Tawel a bwriadodd y Japaneaid ei chipio.[1]
Wedi'r rhyfel, Port Moresby oedd prifddinas weinyddol Tiriogaeth Papua ac yn hwyrach Tiriogaeth Papua a Gini Newydd, dan reolaeth Awstralia. Datblygodd y porthladd yn ddinas gynlluniedig fodern. Sefydlwyd Ardal y Brifddinas Genedlaethol (240 km2) ym 1974, a daeth Port Moresby yn brifddinas Papua Gini Newydd pan enillodd y wlad ei hannibyniaeth ym 1975.[1]
Adeiladau ac adeilwadwaith
golygu- Amgueddfa Genedlaethol
- Gerddi Botanegol y Brifddinas Genedlaethol
- Maes Awyr Rhyngwladol Jackson
- Mynwent Ryfel Bomana
- Prifysgol Papua Gini Newydd
- Tŷ'r Senedd
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Port Moresby. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Hydref 2015.
- ↑ (Saesneg) Papua New Guinea. UNdata. Adalwyd ar 28 Hydref 2015.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) Port Moresby defeats 130 world capitals to win worst city tag. PNG ATTITUDE (6 Hydref 2014). Adalwyd ar 28 Hydref 2015.
- ↑ (Saesneg) Port Moresby, Papua New Guinea. Global Cities Research Institute, Prifysgol RMIT. Adalwyd ar 28 Hydref 2015.
- ↑ (Saesneg) Raskol gangs rule world's worst city. The Guardian (22 Medi 2004). Adalwyd ar 28 Hydref 2015.
- ↑ (Saesneg) Splendid isolation: Dispatches from the most diverse region on earth. The Economist (22 Mai 2009). Adalwyd ar 28 Hydref 2015.
- ↑ (Saesneg) Damascus, Dhaka, Port Moresby, Lagos and Harare: The Five Worst Cities in the World to Live. International Business Times (29 Awst 2013). Adalwyd ar 28 Hydref 2015.
- ↑ (Saesneg) Coup for PNG as 'least liveable' city to host 2018 APEC summit. The Australian (10 Hydref 2013). Adalwyd ar 28 Hydref 2015.