Cwm Elan

(Ailgyfeiriad o Gwm Elan)

Cwm ger Rhaeadr Gwy ym Mhowys yw Cwm Elan, sef dyffryn afon Elan.

Cwm Elan
Mathdyffryn, ardal gadwriaethol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd70 mi² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.2622°N 3.5886°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethInternational Dark Sky Park Edit this on Wikidata
Manylion

Ardal Cwm Elan

golygu

Mae'n ardal brydferth a diarffordd wrth odre bryniau Elenydd ac ychydig i'r gogledd o Raeadr Gwy. Mae'n gorchuddio 70 milltir sgâr (180 km2) - yn ddŵr ac yn dir amaethyddol, Llyn Elan a phentref Elan. Mae dros 80% o'r dyffryn wedi'i nodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Agorwyd y cyntaf o gronfeydd Elan ar yr 21 Gorffennaf 1904 er mwyn cyflenwi dŵr i ddinas Birmingham yn Lloegr. Cafodd dros gant o'r gweithwyr a oedd yn codi'r argae eu lladd yn ystod y gwaith. Dioddefodd y bobl leol hefyd. Bu rhaid i tua chant o'r trigolion symud o'u cartrefi. Diflannodd yr ysgol, yr eglwys a'r capel, ynghyd â nifer o ffermydd a bythynnod.

Cronfeydd Cwm Elan

golygu

Tua'r adeg hon y crewyd cronfa Claerwen, i'r gorllewin o Gwm Elan. Mae'r dwr yn llifo oddi yma i Loegr drwy draphont a phibell ddŵr Elan - Birmingham.

Mae'r SAS (byddin cudd Lloegr) yn ymarfer yn yr ardal.