Dryll a chanddo faril llyfn heb ei rigoli yw gwn haels sy'n saethu nifer o haels neu belenni sy'n gwasgaru wrth iddynt adael trwyn yr arf. Defnyddir yn bennaf i saethu targedau bychain sy'n symud, yn enwedig adar, ac am y rheswm hwnnw fe'i elwir hefyd yn wn ffowlio neu wn adara yn hanesyddol.

Gwn haels
Enghraifft o:dosbarth o arfau yn ôl swyddogaeth Edit this on Wikidata
Mathlong gun, dryll baril llyfn, hunting gun Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfraith y Deyrnas Unedig

golygu

Yn y Deyrnas Unedig, dim ond unigolion sy'n meddu ar Dystysgrif Gwn Haels sydd yn drwyddedig i berchen ar ddryll o'r fath. Yr heddlu lleol sy'n penderfynu os yw'n briodol i roddi'r dystysgrif. Cyhoeddir Tystysgrifau Gwn Haels ar wahân i Dystysgrifau Arfau Tân. Mae Tystysgrif Gwn Haels yn ddilys am bum mlynedd, fel rheol, ac yn costio £79.50 i'w derbyn a £49 i'w hadnewyddu.[1]

 
Y saethwraig Annie Oakley gyda'i gwn haels.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) "Guide on Firearms Licensing Law", Y Swyddfa Gartref (Ebrill 2016). Adalwyd ar 22 Mawrth 2019.
  Eginyn erthygl sydd uchod am arf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.