Aderyn
Adar | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata Cytras: Avemetatarsalia Cytras: Ornithurae |
Dosbarth: | Linnaeus, 1758 |
Urddau | |
| |
Cyfystyron | |
|
Anifail asgwrn-cefn gydag adenydd, pig, plu, dwy goes a gwaed cynnes yw aderyn (lluosog adar). Mae bron pob aderyn yn gallu hedfan, mae adar na allant hedfan yn cynnwys yr estrys, y ciwi a'r pengwiniaid. Ceir mwy na 10,400 o rywogaethau o adar.[1] Maen nhw'n byw mewn llawer o gynefinoedd gwahanol ledled y byd. Adareg (neu Adaryddiaeth) yw astudiaeth adar.
AnatomiGolygu
Mae strwythur adar wedi addasu ar gyfer hediad. Mae eu coesau blaen wedi newid i adenydd. Mae gan adar big ysgafn heb ddannedd ac mae codennau aer tu fewn i'w hesgyrn.
AtgenhedliadGolygu
Mae adar yn dodwy wyau â phlisgyn caled. Mae'r rhan fwyaf o adar yn adeiladu nyth lle maen nhw'n deor eu hwyau. Mae rhai adar yn cael eu geni'n ddall a noeth. Mae adar eraill yn gallu gofalu amdanynt eu hunain bron ar unwaith.
MudiadGolygu
Mae llawer o rywogaethau yn mudo er mwyn dianc rhag tywydd oer. Mae miliynau o adar sy'n nythu yn Hemisffer y Gogledd yn mudo i'r de. Mae rhai adar Hemisffer y De yn mudo i'r gogledd. Mae Morwennol y Gogledd yn hedfan ymhellach nag unrhyw aderyn arall o'r Arctig i'r Antarctig.
EsblygiadGolygu
Esblygodd adar o ddeinosoriaid o'r urdd Therapoda, mae'n debyg. Archaeopteryx yw'r adar ffosilaidd henaf a fu fyw tua 150 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Adar a dynGolygu
Mae adar yn ffynhonnell bwysig o fwyd i bobl. Mae rhai adar fel yr iâr a'r twrci wedi eu ffermio ar gyfer eu cig neu wyau. Anifeiliaid anwes poblogaidd yw rhai adar e.e. y byji a'r caneri.
Mae llawer o adar wedi eu peryglu oherwydd hela a dinistr amgylcheddol. Mae elusennau fel Cymdeithas Audubon yn yr Unol Daleithiau a’r RSPB yn y DU yn ymgyrchu i amddiffyn adar.
Mewn llenyddiaeth GymreigGolygu
Efallai'r cyntaf i gofnodi rhai o'r adar a welodd ar ei deithiau oedd Gerallt Gymro. Nid oedd ganddo ryw lawer o ddiddordeb ynddynt ond mae rhai o'r sylwadau'n ddigon diddorol, serch hynny, e.e.
"Clywir yn y coed cyfagos chwibaniad pereiddlais aderyn bach, y dywedodd rhai mai cnocell y coed ydoedd, ond eraill, yn fwy cywir, mai peneuryn. Cnocell y coed y gelwir yr aderyn bach, yr hwn a alwyd pic yn yr iaith Ffrangeg, a dylla'r dderwen â'i ylfin cryf ... A pheneuryn y gelwir aderyn bach hynod am ei liw euraid a melyn, a ddyry, yn ei dymor priodol, yn lle cân, chwibaniad melys; ac oddi wrth ei liw euraid y derbyniodd ei enw, peneuryn."[2]
Mae'n debygol iawn mai'r euryn (golden oriole) oedd yr aderyn a glywodd Gerallt neu, fel y tybiai ei gyfeillion, cnocell werdd.
Un o gerddi mwya'r Gymraeg ydy cywydd i'r "Alarch" gan Dafydd ap Gwilym. Ceir hefyd nifer o hen benillion sy'n sôn am adar; dyma un, er enghraifft:
- Gwyn eu byd yr adar gwylltion,
- Hwy gânt fynd i'r fan a fynnon',
- Weithiau i'r môr ac weithiau i'r mynydd,
- A dod adref yn ddigerydd.
Yn y Mabinogi fe drowyd Blodeuwedd yn dylluan am gamfihafio.
DosbarthiadGolygu
Aves |
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
UrddauGolygu
PalaeognathaeGolygu
NeognathaeGolygu
Galloanserae
Neoaves
- Gaviiformes: trochyddion
- Podicipediformes: gwyachod
- Procellariiformes: albatrosiaid, adar drycin a phedrynnod
- Sphenisciformes: pengwiniaid
- Pelecaniformes: pelicanod, mulfrain, huganod a.y.y.b.
- Ciconiiformes: crehyrod, ciconiaid a.y.y.b.
- Phoenicopteriformes: fflamingos
- Falconiformes: adar ysglyfaethus
- Gruiformes: rhegennod, garanod a.y.y.b.
- Charadriiformes: rhydwyr, gwylanod, morwenoliaid a charfilod
- Pteroclidiformes: ieir y diffeithwch
- Columbiformes: colomennod, dodo
- Psittaciformes: parotiaid
- Cuculiformes: cogau, twracoaid
- Strigiformes: tylluanod
- Caprimulgiformes: troellwyr a.y.y.b.
- Apodiformes: gwenoliaid duon, adar y si
- Coraciiformes: gleision y dorlan, rholyddion, cornylfinod a.y.y.b.
- Piciformes: cnocellod, twcaniaid a.y.y.b.
- Trogoniformes: trogoniaid
- Coliiformes: colïod
- Passeriformes: adar golfanaidd neu adar clwydol
TeuluoeddGolygu
Yn ôl IOC World Bird List ceir 240 teulu (Mawrth 2017):
Rhestr Wicidata:
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gill, F. & D. Donsker (goln.) (2012). IOC World Bird List, Version 3.1. Adalwyd ar 10 Mai 2012.
- ↑ Y Casglwr; adalwyd 27 Ebrill 2014.
Gweler hefydGolygu
Dolenni allanolGolygu
- Internet Archive: Adareg Canolfan Edward Llwyd, Prifysgol Cymru
- RSPB Cymru
- (Saesneg) Avionary Enwau adar WP mewn 41 o ieithoedd