Gwrachyddiaeth yng Nghymru fodern gynnar

Yn wahanol i Loegr a'r Alban, roedd nifer cymharol fach o gyhuddiadau o wrachyddiaeth neu erlidiau gwrachod yng Nghymru yn y cyfnod modern cynnar (o'r 16eg ganrif hyd ganol y 18fed ganrif). Cafodd y mwyafrif o'r cyhuddedig eu rhyddfarnu, gyda phum person yn unig yn cael eu dienyddio yn ystod y cyfnod hwn.[1]

Cyd-destun hanesyddol

golygu

Yn ystod y cyfnod modern cynnar yng Nghymru, roedd gwrachyddiaeth yn gyffredin, ac roedd credoau a defodau ofergoelus yn rhan o fywyd bob dydd. Fodd bynnag, roedd cyhuddiadau, treialon, a dienyddiadau yn llawer llai cyffredin o gymharu â Lloegr, yr Alban, a gwledydd eraill Ewrop, gyda dim ond tri deg saith erlyniad yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwnnw.[1] Yn ystod yr un cyfnod, credir bod 500 person wedi eu dienyddio yn Lloegr ar ôl cael eu cyhuddo o wrachyddiaeth.[2]

Yn ogystal, gwrthodwyd neu ryddfarnwyd y mwyafrif o'r achosion yng Nghymru, ac roedd y gosb fel arfer yn llai llym o gymharu â llefydd eraill, lle yr oedd arteithio yn gyffredin. Yn ôl yr hanesydd Richard Suggett, mae ffynonellau Seisnig cyfoes yn nodi bod y gred mewn mathau gwahanol o swyngyfaredd yn bodoli yng Nghymru yn y cyfnod hwn, a allai fod yn faleisus neu'n llesiannol.[1]

Er na chredid bob amser fod gwrachyddiaeth yn rhywbeth drwg yn y cyfnodau cynnar, newidiodd agweddau tuag ati hi a swyngyfaredd yn ystod yr Oesoedd Canol Diweddar, pan gysylltwyd nhw â'r diafol, ac yn y pen draw, daeth yn anghyfreithlon i ymarfer unrhyw fath o wrachyddiaeth neu swyngyfaredd.[3]

Deddfau gwrachyddiaeth

golygu

Gyda Deddfau Uno 1536–1543, daeth Cymru o dan reolaeth Lloegr. Fodd bynnag, oherwydd diffyg cosbau a dienyddiadau llym yng Nghymru, yn ogystal â'r parch a ddangoswyd tuag at Lys y Sesiwn Fawr droseddol yn lle llysoedd yr eglwys, parhaodd Cymru i ddilyn cyfreithiau hŷn y wlad, sef Cyfraith Hywel, yn hytrach na chyfraith Loegr. Roedd y gyfundrefn hon yn rhoi pwyslais ar ddigolledu dioddefwyr yn hytrach na chosbi'r cyhuddedig, gan geisio sicrhau cytgord yn y gymuned a chanlyniad buddiol i'r partïon dan sylw.[4]

Deddfau gwrachyddiaeth Prydain yn ystod y cyfnod modern cynnar

golygu

Ym 1542, o dan Harri VIII, daeth Deddf Gwrachyddiaeth 1541 i rym gan Senedd Lloegr, ond diddymwyd hi yn ddiweddarach gan Edward VI. Yn ôl y ddeddf hon, gellid dedfrydu'r gosb eithaf am ymarfer gwrachyddiaeth.[5]

Ym 1563, o dan Elisabeth I, cyflwynwyd Deddf Gwrachyddiaeth 1563, a adferodd rhai elfennau o'r ddeddf flaenorol. Fodd bynnag, dim ond pan achoswyd niwed gyda gwrachyddiaeth y gellid dedfrydu'r gosb eithaf.[5]

Ym 1604, o dan Iago I, diddymwyd Deddf 1563, a daeth Deddf Gwrachyddiaeth 1603 i rym. Rhoddodd y ddeddf hon gosbau gwahanol ar gyfer troseddau gwahanol os nad oeddent mor niweidiol â throseddau eraill.[6] Am y tramgwydd cyntaf, dylid carcharu'r troseddwr a'i gadw yn y rhigod (mecanwaith sy'n debyg i'r cyffion neu'r cyffion traed), ond am yr ail dramgwydd, gellid dedfrydu'r gosb.[4] Yn ogystal, ar ôl Deddfau 1563 a 1604, nid yr eglwys oedd yn gyfrifol am erlyn dewiniaid a gwrachod, ond y llysoedd sifil.[2]

Ym 1735, o dan Siôr II, diddymwyd Deddf Gwrachyddiaeth 1735 bob deddf flaenorol. Gwnaeth hefyd yn drosedd i honni bod rhywun arall yn ymarfer gwrachyddiaeth neu'n meddu ar bwerau swyngyfareddol. Yn ogystal, daeth y ddeddf hon â'r helfâu dewiniaid a gwrachod a'r gosb eithaf i ben, a'r gosb lemaf o dan y ddeddf newydd oedd blwyddyn o garchar.[7]

Treialon, cyhuddiadau, ac erlyniadau

golygu
 
Lleoliadau'r achosion gwrachyddiaeth yng ngogledd Cymru

Yn ystod yr 16eg a'r 17eg ganrif, dim ond tri deg saith erlyniad am wrachyddiaeth a gofnodwyd yng Nghymru.[1] Roedd hyn yn nifer fechan o gymharu â gweddill Gorllewin Ewrop, lle bu cyfanswm o 200,000 erlyniad rhwng rhwng canol y 15fed ganrif a chanol y 18fed ganrif.[8]

O'r tri deg saith person a ddrwgdybiwyd, dim ond wyth a gafwyd yn euog, a dim ond pump a ddedfrydwyd i'r gosb eithaf; mae'n debygol bod y gweddill wedi'u rhyddfarnu.[1] Yn ôl yr hanesydd Kelsea Rees o Brifysgol Gobaith Lerpwl, digwyddodd pob un o'r achosion hyn yng ngogledd Cymru,[9] gyda llawer ohonynt yn agos iawn at ffin ogleddol Cymru a Lloegr.

Dienyddiadau

golygu

Ym 1594, Gwen ferch Ellis (42) o Landyrnog, Sir Ddinbych, oedd y gyntaf i gael ei dienyddio fel gwrach yng Nghymru. Er ei bod yn adnabyddus am ei sgiliau iacháu, un o'r prif gyhuddiadau yn ei herbyn oedd ymarfer rheibiaeth, sef gwrachyddiaeth faleisus. Tarddodd y cyhuddiadau o swynogl a ysgrifennwyd tuag yn ôl, a ystyriwyd yn dystiolaeth o reibio. Ar ôl ei threial, cafodd ei dedfrydu i farwolaeth.[10]

Ym 1622, yng Nghaernarfon, cafwyd triawd o wrachod o'r un teulu yn euog a'u dienyddiwyd yn syth. Y triawd oedd Lowri ferch Evan, Agnes ferch Evan, a Rhydderch ap Evan, a oedd yn iwmon (gwas o safle is na'r ysgwïer). Cyhuddwyd o reibio Mary Hughes, merch dyn bonheddig lleol, yn ogystal â bod yn gyfrifol am farwolaeth ei mam, Margaret Hughes, a oedd eisoes yn sâl o strôc.[9]

Ym 1655, ym Miwmares, Ynys Môn, cyhuddwyd Margaret ferch Richard o wrachyddiaeth. Gwraig weddw ydoedd, a chredid mai swynyddes oedd hi. Cyhuddwyd hefyd o achosi marwolaeth Gwen Meredith, dynes a oedd yn sâl cyn iddi farw. Cafwyd Margaret yn euog o dan Ddeddf Gwrachyddiaeth 1604, a dedfrydwyd hi i farwolaeth drwy grogi.[9]

Rhyddfarnau

golygu

Ym 1655, yn Llanasa, Sir y Fflint, cynhaliwyd treial arall. Cyhuddwyd Dorothy Griffith o reibio morwr teithiol o'r enw William Griffith. Honnai William ei fod weld Dorothy ger ei fron gyda goleuadau o'i chwmpas, a'i bod yn ei arwain at dŷ cwrw. Honnodd iddo edrych dros y môr a gweld ei fod ar dân, a daeth arno ofn mawr. Yn sgil hyn, syrthiodd i mewn i berlewyg neu golli ymwybyddiaeth, ond gwnaeth wella'n hwyrach.

Carcharwyd Dorothy am saith wythnos, ond llwyddodd i gasglu tystlofnodion oddi wrth y bobl leol. Honnont nad oeddent yn credu bod Dorothy yn ymarfer gwrachyddiaeth. Y si oedd bod perthynas y ddau deulu yn denau, ac nad oedd William yn iach. Er i Dorothy gael ei dwyn gerbron y llys, diddymwyd yr achos, a chafodd ei rhyddhau heb ei dedfrydu.[3]

Mae achos Dorothy Griffith yn un ymhlith tri deg dau achos arall lle cafodd y cyhuddedig eu rhyddfarnu.

Cyhuddiadau eraill a'u canlyniadau

golygu

Dyma restr o unigolion a gyhuddwyd o fod yn wrachod neu yn swynwyr yng Nghymru, ynghyd â'r hyn a ddigwyddodd iddynt.

Enw Dyddiad Lle Manylion Canlyniad
Tangwlyst ferch Glyn 1560au Tyddewi Cyhuddwyd hi gan Esgob Tyddewi o gyd-fyw â dyn, ac felly creodd hi ffigwr o'r Esgob a'i felltithio. Cwympodd yr Esgob yn sâl, ond ni chafodd y digwyddiad ganlyniadau pellach. Dyma'r unig enghraifft yng Nghymru o boped yn cael ei ddefnyddio yn y modd hwn. Roedd Tanglwyst yn lwcus, gan fod Deddf Gwrachyddiaeth 1563 wedi dod i rym ychydig yn hwyrach yn ei hoes.[11] Anhysbys
Hugh Bryghan 1568 Morgannwg Erlynwyd Hugh am swyngyfaredd yn hytrach na gwrachyddiaeth. Yn ei ôl ef, daroganwr, neu goelddyn, ydoedd (ond efallai y byddai wedi galw ei hun yn ddyn hysbys). Defnyddiai grisialau i ganfod nwyddau coll drwy alw ar bwerau'r drindod. Gwadodd Hugh ei fod yn gweithio â dyfyn-ysbrydion, gan honni yn ddiweddarach mai lledrith oedd y cyfan oll.[12] Dirwywyd a rhyddhawyd
Gwen ferch Ellis 1594 Llandyrnog, Dinbych Daroganwraig, neu goelddynes, oedd Gwen, a greodd elïoedd iachaol i wella anifeiliaid, pobl sâl, a phlant. Cyhuddwyd hi o ysgrifennu swynogl tuag yn ôl - at ddibenion drwg, felly - a ganfuwyd yn nhŷ Thomas Mostyn, un o'r bonheddwyr a thirfeddiannwyr mwyaf dylanwadol y cyfnod hwnnw.[13] Canfuwyd hi'n euog a chrogwyd hi cyn diwedd y flwyddyn yn Sgŵar Tref Dinbych.
Gruffydd ap Dafydd ap Siôn ac eraill 1579 Trefaldwyn Daeth Dafydd Lloyd ag achos yn erbyn Gruffydd ap Dafydd ap Siôn ac eraill i sylw Syr John Throckmorton, gan honni eu bod yn defnyddio ysbrydion drwg, swyngyfareddion, a gwrachyddiaeth er mwyn swyno afal a phowdr a roddodd ef i ferch Lloyd, Margaret ferch Dafydd, er mwyn ei gorfodi i ffoi gyda Siôn ap Gryffudd. Ar ôl bwyta'r afal, aeth â hi yn erbyn ei hewyllys i Sir Ddinbych gan y diffynyddion, lle treisiont hi.[14] Nid yw cofnodion Llys Trefaldwyn y Sesiwn Fawr yn nodi'r canlyniadau.
Marsli Ferch Thomas 1584 Sir y Fflint Cyhuddwyd Marsli a'i phlant o reibio William Lewis a'i feistr.[15] Anhysbys
Katherine Lewis/Bowen 1607 Gumfreston Cyhuddwyd hi o reibio gyr o foch ac o achosi colli nwyddau ac eiddo drwy berfformio 'celfyddydau cythreulig.'[13] Anhysbys
Agnes Griffiths 1616/1618 Maenordeifi Cyhuddwyd hi o wrachyddiaeth ffetis a phricio 'rhywbeth' yn ei llaw chwith, a llosgi pum cannwyll ar ben ei bysedd.[16] Anhysbys
Rhydderch ap Evan, Lowri ferch Evan, ac Agnes ferch Evan 1622 Llannor Cyhuddwyd hi o wrachyddiaeth ffelonaidd. Honnwyd mai nhw oedd wrth wraidd marwolaeth a rheibio Marged Huws o Lanbedrog. Plediont yn ddieuog, ond cafwyd nhw'n euog.[17] Crogwyd.
Harry Lloyd 1632 Caernarfon Cyhuddwyd hi o ddefnyddio 'celfyddydau anghyfreithlon a drwg,' gan gynnwys darllen ffortiwn, llawddewiniaeth, a 'bod yn gyfarwydd ag ysbrydion drwg gyda'r nos.' Cydnabu Harry iddo gwrdd â'r tylwyth teg ac ysbrydion eraill bob nos Fawrth ac Iau er mwyn gwneud i'w gymdogion yn gyfoeth.[18] Anhysbys
Henry John James 1637/1638 Diserth Cyhuddwyd o fod yn swynwr a chonsuriwr a'i fod yn ymarfer gwrachyddiaeth. Y prif gyhuddiad oedd iddo reibio dau ych a oedd yn perthyn i John Wynn Edwards.[19] Ymbilwyd arno ofyn i Dduw fendithio'r ychen.
Marged ferch Rhisiart 1655 Biwmares Cyhuddwyd o reibio Gwen Meredith ar ôl iddi gwympo'n sâl a marw ddiwedd mis Rhagfyr. Plediodd Marged yn ddieuog ond cafwyd hi'n euog.[20] Crogwyd ym Miwmares
Gwenllïan David 1656 Anhysbys Gwerthwraig gaws a gyhuddwyd o wrachyddiaeth a dwyn.[17] Anhysbys
Anne Ellis 1657 Llannerch Banna Cyhuddwyd o wrachyddiaeth, da a drwg, yn erbyn da byw a phlant.[17] Rhyddhawyd hi o fai
Dorothy Griffith 1656 Llanasa Cyhuddwyd o wrachyddiaeth a rheibio William Griffith. Plediodd hi ei dieuogrwydd.[17] [21] Rhyddhawyd hi o fai
Charles Hughes 1690 Llanasa Cyhuddwyd o anafu gwartheg ei landlord, ond ni soniwyd am ba ffurf.[22] Rhyddhawyd hi o fai
Olivia "Olly" Powell 1693 Loveston Cyhuddwyd o ddinistrio tas o wair, clafychu hychod, trawsffurfio i mewn i, ac yn rhedeg fel, ysgyfarnog, a lladd dofednod. Pan wrthododd dyn roi glo iddo, cafodd boen yn ei goesau.[23] Cynhaliwyd ei hachos yng Nghastell Hwlffordd.[24] Anhysbys
Dorcas Heddin 1699 Hwlffordd Yn wreiddiol o Gaergrawnt, cyhuddwyd Dorcas o reibio morwyr yn sâl am iddynt beidio â rhoi digon o ddognau iddi. Cynhaliwyd ei hachos yng Nghastell Hwlffordd.[24] Anhysbys

Diddordeb newydd

golygu

Yn 2024, cynhaliwyd cyfres o sgyrsiau ar-lein dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gan Siân Melangell Dafydd ar themâu'r pum person a ddienyddiwyd dan ddyfarniad o fod yn "wrachod." Mae'r sgyrsiau i'w gweld ar Y Porth, gwefan ddysgu'r Coleg. Mae'r sgyrsiau'n ymwneud â hanes y pump ac yn estyn i drafodaethau ar wrachyddiaeth a "swynddewinwyr" yng Nghymru.[25]

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Suggett, Richard (2000). "Witchcraft Dynamics in Early Modern Wales". Women and gender in early modern Wales. Michael Roberts, Simone Clarke. Cardiff: University of Wales Press. tt. 75–103. ISBN 0-7083-1580-1. OCLC 46952260.
  2. 2.0 2.1 "Witchcraft". www.parliament.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Mawrth 2021.
  3. 3.0 3.1 Williams, J. Gwynn (1973–1974). "Witchcraft in Seventeenth-Century Flintshire (Part One)". Journal of the Flintshire Historical Society 26: 16–33. https://www.library.wales/discover/digital-gallery/archives/witchcraft-court-of-great-sessions-rec/witchcraft-in-17th-century-flintshire.
  4. 4.0 4.1 Parkin, Sally (2006). "Witchcraft, women's honour and customary law in early modern Wales". Social History 31 (3): 295–318. doi:10.1080/03071020600746636. JSTOR 4287362. http://www.jstor.org/stable/4287362.
  5. 5.0 5.1 Podvia, Mark W. "Witchcraft Laws and Trials: A Brief Timeline" (PDF). dcba-pa.org. Cyrchwyd 2 Mawrth 2021.
  6. Rosen, Barbara (1991). Witchcraft in England 1558–1618. Massachusetts: University of Massachusetts Press. ISBN 978-0870237539.
  7. Hutton, Ronald (1999). The Triumph of the Moon. Oxford: Oxford University Press. tt. 107. ISBN 978-0-19-820744-3.
  8. "The history of witches in Britain". Historic UK (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 Mawrth 2021.
  9. 9.0 9.1 9.2 Hopkins, Matthew (28 Hydref 2020). "The Welsh Witch Trials". Caernarfon Herald. Cyrchwyd 28 Chwefror 2021.
  10. "Witches in the dock: 10 of Britain's most infamous witch trials". HistoryExtra (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Chwefror 2021.
  11. Carradice, Phil (25 Mawrth 2010). "Welsh witches". bbc.co.uk (yn Saesneg). BBC. Cyrchwyd 2 Awst 2024.
  12. Suggett, R (2018). Welsh Witches: Narratives of Witchcraft and Magic from sixteenth- and seventeenth-century Wales. Llanelwy: Atramentous Press. t. 18-19. ISBN 9781999946715.
  13. 13.0 13.1 Suggett, R (2018). Welsh Witches: Narratives of Witchcraft and Magic from sixteenth- and seventeenth-century Wales. Llanelwy: Atramentous Press. t. 20. ISBN 9781999946715.
  14. Parkin, S (2002). "Defining the Figure of the Welsh Witch, 1536-1736" (pdf). rune.une.edu.au. Prifysgol New England. t. 98-99. Cyrchwyd 2 Awst 2024.
  15. Suggett, R (2018). Welsh Witches: Narratives of Witchcraft and Magic from sixteenth- and seventeenth-century Wales. Llanelwy: Atramentous Press. t. 28. ISBN 9781999946715.
  16. Suggett, R (2018). Welsh Witches: Narratives of Witchcraft and Magic from sixteenth- and seventeenth-century Wales. Llanelwy: Atramentous Press. t. 22, 27. ISBN 9781999946715.
  17. 17.0 17.1 17.2 17.3 Suggett, R (2018). Welsh Witches: Narratives of Witchcraft and Magic from sixteenth- and seventeenth-century Wales. Llanelwy: Atramentous Press. t. 21. ISBN 9781999946715.
  18. Clark, S; Morgan, P T J (1976). "Religion and Magic in Elizabethan Wales: Robert Holland’s Dialogue on Witchcraft". Journal of Ecclesiastical History 27: 43. https://archive.org/details/sim_journal-of-ecclesiastical-history_1976-01_27_1/page/43.
  19. Suggett, R (2018). Welsh Witches: Narratives of Witchcraft and Magic from sixteenth- and seventeenth-century Wales. Llanelwy: Atramentous Press. t. 30. ISBN 9781999946715.
  20. Hughes, Ian (25 Hydref 2020). "The incredible true stories behind the five women executed for 'witchcraft' in North Wales". dailypost.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Chwefror 2024.
  21. "The Trial of Dorothy Griffith". www.mythslegendsodditiesnorth-east-wales.co.uk. Curious Clwyd - The beauty, the history, the folklore of North East Wales. 2002. Cyrchwyd 2 Awst 2024.
  22. "Witchcraft (Court of Great Sessions Rec)". library.wales. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 2020. Cyrchwyd 2 Awst 2024.
  23. Suggett, R (2018). Welsh Witches: Narratives of Witchcraft and Magic from sixteenth- and seventeenth-century Wales. Llanelwy: Atramentous Press. t. 21, 22. ISBN 9781999946715.
  24. 24.0 24.1 Hanson, J (2014). "Witchcraft in Pembrokeshire". westerntelegraph.co.uk. Western Telegraph. Cyrchwyd 2 Awst 2024.
  25. "Coel Gwrach". Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 2024.

Gweler hefyd

golygu