Gwrgant ap Rhys
Bardd Cymraeg oedd Gwrgant ap Rhys (bu farw 1158). Roedd yn fardd llys y tywysog Morgan ab Owain o Wynllŵg yn ne-ddwyrain Cymru, a oedd y pryd hynny yn rhan o Forgannwg.
Gwrgant ap Rhys | |
---|---|
Bu farw | 1158 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Ceir yr unig gyfeiriad hanesyddol ato ym Mrut y Tywysogion. Yn y flwyddyn 1158, ymosododd Ifor Bach (Ifor ap Meurig), arglwydd Senghennydd, ar luoedd Morgan ab Owain o Wynllwg a'i ladd ef a'r 'bardd gorau', Gwrgant ap Rhys:
- Blwyddyn wedy hynny y llas Morgant fab Owain drwy dwyll y gan wŷr Ifor fab Meurig, a chyd ag ef y prydydd goreu a oedd, Gwrgant fab Rhys.[1]
Dyma'r unig wybodaeth ddilys am y bardd, a oedd yn amlwg yn uchel ei barch. Does dim o'i waith wedi goroesi.
Ar ddiwedd y 18g, cydiodd Iolo Morganwg yn yr hanesyn wrth ysgrifennu ei gronicl ffug Brut Aberpergwm, a dadogir ganddo ar Garadog o Lancarfan, ac felly daeth yn rhan o'r Forgannwg chwedlonol a grëwyd gan Iolo ac a ddaeth yn gyfarwydd i Gymry darllengar y 19g. Yn ôl Iolo, roedd Gwrgant yn ŵyr i Iestyn ap Gwrgant (1045-1093), brenin olaf Morgannwg, ac 'y gŵr dysgediccaf o Brydydd a gaid yn ei amser'. Does dim sail hanesyddol i honiadau Iolo.[2]