Caradog o Lancarfan
Clerigwr ac awdur yn yr iaith Ladin o Gymru oedd Caradog o Lancarfan (bu farw c. 1156). Credir mai ef oedd awdur bucheddau'r seintiau Gildas a Cadog; mae rhai cyfeiriadau ynddynt yn awgrymu ei fod yn gyfarwydd a Glastonbury yn ogystal â Llancarfan.
Caradog o Lancarfan | |
---|---|
Ganwyd | 12 g Cymru |
Bu farw | 1156 Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | hagiograffydd |
Blodeuodd | 1135 |
Traddodiad
golyguMae cyfeiriad ato gan Sieffre o Fynwy yn ei ffug-hanes Historia Regum Britanniae, sef Brut y Brenhinedd (tua 1135); wedi iddo drafod y cyfnod hyd 689 mae'n awgrymu fod Caradog yn ysgrifennu hanes Cymru o'r dyddiad hwnnw ymlaen. Nid oes tystiolaeth ei fod wedi gwneud hynny. Cysylltir ef ag ysgrifennu Brut y Tywysogion gan rai awduron, ond nid oes tystiolaeth o hyn, ychwaith.
Ar sail y cyfeiriad ato gan Sieffre, lluniodd Iolo Morganwg destun Brut Aberpergwm a'i dadogi ar Garadog o Lancarfan. Cyhoeddwyd y testun yn y Myvyrian Archaiology of Wales a chamarweinwyd nifer o bobl gan y fersiwn Morgannwg-ganolog o hanes Cymru'r Oesoedd Canol a geir ynddo.[1]
Testunau
golygu- Buchedd Gildas gan Garadog o Lancarfan Archifwyd 2009-09-14 yn y Peiriant Wayback, cyfieithiad Saesneg Hugh Williams, 1899.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948), tt. 3-4.