Gwrth-bab Alecsander V
gwrth-bab
Gwrth-bab yr Eglwys Gatholig Rufeinig o 26 Mehefin 1409 hyd 3 Mai 1410 oedd Alecsander V (ganwyd Pedr o Candia) (1339 – 3 Mai 1410). Fe'i hetholwyd gan Gyngor Pisa yn ystod y Sgism Orllewinol (1378–1417) mewn ymgais i ddod â'r rhwyg i ben, ond daeth yn drydydd hawliwr i'r babaeth mewn gwrthwynebiad i'r pab yn yr olyniaeth Rufeinig, sef y Pab Grigor XII (1406–1417), a'r gwrth-bab yn olyniaeth Avignon, sef y Gwrth-bab Bened XIII (1394–1423). Fe'i holynwyd gan Gwrth-bab Ioan XXIII.
Gwrth-bab Alecsander V | |
---|---|
Ganwyd | 1339 Creta |
Bu farw | 3 Mai 1410 Bologna |
Dinasyddiaeth | Unknown |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig |
Swydd | cardinal, Archesgob Milan, Esgob Vicenza, Roman Catholic Bishop of Novara, esgob esgobaethol, gwrth-bab |
Rhagflaenydd: – |
Gwrth-bab Pisa 26 Mehefin 1409 – 3 Mai 1410 |
Olynydd: Gwrth-bab Ioan XXIII |