Gwrthimiwnedd yw lleihad yng ngweithrediad neu effeithlondeb y system imiwnedd. Mae gan rai rhannau o'r system imiwnedd ei hun effeithiau gwrthimiwnedd ar rannau eraill o'r system imiwnedd, a gall gwrthimiwnedd ddigwydd fel adwaith andwyol i driniaethau ar gyfer cyflyrrau eraill.[1][2]

Gwrthimiwnedd
Mathimiwnotherapi Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn gyffredinol, caiff gwrthimiwnedd ei achosi'n fwriadol i atal y corff rhag gwrthod organ wedi'i drawsblannu,[3] Caiff hyn hefyd ei ddefnyddio ar gyfer trin clefydau ar ôl trawsblannu mêr esgyrn, neu ar ôl trin clefydau awto-imiwn megis lwpws erythematosus systemig, arthritis rhiwmatoid, Syndrom jögren, neu glefyd Crohn's. Caiff hyn ei wneud fel arfer drwy ddefnyddio meddyginiaethau, ond gall gynnwys llawdriniaeth (splenectomi), plasmapheresis, neu ymbelydredd. 

Gwrthimiwnedd wedi'i achosi'n fwriadol golygu

Gweinyddu meddyginiaethau gwrthimiwnedd yw'r prif ffordd o achosi gwrthimiwnedd bwriadol, dan amgylchiadau optimaidd, caiff cyffurfiau gwrthimiwnedd eu targedu at gyfansoddyn gorfywiog y system imiwnedd yn unig.[4] Derbyniodd Dr. Joseph Murray, Ysbyty Brigham a Menywod, Gwobr Nobel mewn Ffisioleg neu Feddygaeth ym 1990 am ei waith ar wrthimiwnedd.[5]

Mae gan gyffuriau gwrthimiwedd y potensial i achosi diffyg imiwnedd, sy'n golygu bod pobl yn fwy agored i heinitau manteisgar a'i bod yn llai posibl cadw golwg ar berthnasedd cancr a'r system imiwnedd.[6] Gellir rhoi prescripsiwn i atal y system imiwnedd pan fo ymateb arferol y system imiwnedd yn annymunol, megis clefydau awto-imiwn[7]

Gwrthimiwnedd nad yw'n fwriadol golygu

Gall gwrthimiwnedd nad yw'n fwriadol ddigwydd mewn, er enghraifft, ataxia-telangiectasia, sawl math o ganser, a heintiau cronig penodol megis HIV. Yr effaith annymunol mewn gwrthimiwnedd nad yw'n fwriadol yw diffyg imiwnedd sy'n arwain at bobl yn dod yn fwy agored i bathogenau megis bacteria, a chlefydau.

Mae diffyg imiwnedd hefyd yn effaith andwyol posibl i nifer o gyffuriau sy'n atal y system imiwnedd. Yn hyn o beth, mae atal y system imiwnedd yn gyffredinol yn golygu effeithiau o fudd ac effeithiau andwyol posibl ac sy'n niweidio gweithrediad y system imiwedd.[8]

Mae diffyg celloedd B a chelloedd T yn nam ar y system imiwnedd y caiff pobl eu geni ag ef neu maent yn ei gael yn hwyrach, a all yn ei dro arwain at broblemau o ran diffyg system imiwnedd. [9] 

Cyfeiriadau golygu

  1. "Immunodeficiency disorders: MedlinePlus Medical Encyclopedia". medlineplus.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-05-06.
  2. "NCI Dictionary of Cancer Terms". National Cancer Institute (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-05-06.
  3. Immunosuppression: Overview, History, Drugs. 2017-01-06. http://emedicine.medscape.com/article/432316-overview.
  4. Wiseman, Alexander C. (2016-02-05). "Immunosuppressive Medications". Clinical Journal of the American Society of Nephrology 11 (2): 332–343. doi:10.2215/CJN.08570814. ISSN 1555-9041. PMC 4741049. PMID 26170177. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4741049.
  5. "Joseph E. Murray - Facts". www.nobelprize.org. Cyrchwyd 2017-05-12.
  6. "Immunosuppression". National Cancer Institute (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-07-13.
  7. Chandrashekara, S. (2012). "The treatment strategies of autoimmune disease may need a different approach from conventional protocol: A review". Indian Journal of Pharmacology 44 (6): 665–671. doi:10.4103/0253-7613.103235. ISSN 0253-7613. PMC 3523489. PMID 23248391. https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC3523489/.
  8. Lallana, Enrico C; Fadul, Camilo E (2011). "Toxicities of Immunosuppressive Treatment of Autoimmune Neurologic Diseases". Current Neuropharmacology 9 (3): 468–477. doi:10.2174/157015911796557939. ISSN 1570-159X. PMC 3151601. PMID 22379461. https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC3151601/.
  9. "Immunodeficiency (Primary and Secondary). Information". patient.info (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-07-13.