Gwyach fach

rhywogaeth o adar
Gwyach fach
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Podicipediformes
Teulu: Podicipedidae
Genws: Tachybaptus
Rhywogaeth: T. ruficollis
Enw deuenwol
Tachybaptus ruficollis
(Pallas, 1764)
Cyfystyron

Podiceps ruficollis

Tachybaptus ruficollis
Wyau Tachybaptus ruficollis

Mae'r Wyach fach (Tachybaptus ruficollis) yn aelod o deulu'r Podicipedidae, y gwyachod.

Mae'n un o'r gwyachod mwyaf cyffredin, yn nythu ar draws Ewrop ac Asia cyn belled a Gini Newydd ac ar draws rhannau helaeth o Affrica. Yn y rhannau oeraf, lle mae'r dŵr yn rhewi yn y gaeaf, mae'n symud tua'r de neu'r gorllewin, ond fel arall nid yw'n aderyn mudol. Mae'n aml yn casglu ar lynnoedd mawr yn y gaeaf.

Dosbarthiad byd-eang yr Wyach fach

Mae'r Wyach fach rhwng 23 a 29 cm o hyd, y lleiaf o'r gwyachod yn Ewrop. Gall nythu yn unrhyw le lle mae dŵr croyw gyda digon o dyfiant, hyd yn oed ar byllau bychain. Adeiledir y nyth yn agos i'r dŵr, gan nad yw'n medru cerdded yn dda ar y tir. Mae'n dodwy 4 i 7 wy, ac wedi iddynt ddeor gellir weithiau gweld cyw yn cael ei gario ar gefn un o'r rhieni. Pysgod bychain yw ei brif fwyd, ac mae'n medru nofio o dan y dŵr i'w dal.

Gellir adnabod y Wyach fach yn weddol hawdd o'r maint; mae'n aderyn llawer llai na'r Wyach fawr gopog. Yn y tymor nythu mae'r bochau a'r gwddf yn frowngoch. Yn y gaeaf mae'n haws ei gymysgu gyda gwyachod eraill, gan eu bod yn fwy tebyg i'w gilydd yn eu plu gaeaf, ond heblaw y maint mae'r Wyach fach yn fwy brown lle mae'r rhan fwyaf o'r lleill yn ddu a gwyn. Mae'r alwad yn debyg i sŵn ceffyl yn gweryru.