Gwyddfid
Gwyddfid Llaeth y Gaseg | |
---|---|
1. Cangen yn blodeuo, 2. Cangen mewn ffrwyth, 3. Torriad drwy flodyn, 4. Ffrwyth wedi'i dorri. | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosperms |
Ddim wedi'i restru: | Eudicots |
Ddim wedi'i restru: | Asterids |
Urdd: | Dipsacales |
Teulu: | Caprifoliaceae |
Genws: | Lonicera L. |
Prysgwydden gordeddog yn nheulu'r Caprifoliaceae yw'r gwyddfid neu laeth y gaseg (enw unigol ac enw lluosog) sy'n gynhenid i hemisffêr y gogledd. Mae'n blanhigyn dringol ac ymnyddol o deulu’r Caprifoliaceæ ac mae'n tyfu mewn llwyni a gwrychoedd.[1] Melyn-pinc ydy lliw'r blodau sy'n eitha persawrus ac ar ffurf utgyrn; mae'r aeron a dyf yn yr hydref o liw coch. Mae tua 180 o rywogaethau gwahanol ac mae 20 ohonynt yn gynhenid i Ewrop. Adwaenir y gwyddfid hefyd fel llaeth y gaseg, ymysg nifer o enwau gwahanol. Y math mwyaf cyffredin yw'r Lonicera periclymenum.
Mae'r dail mewn parau, yn syml ac yn hirgrwn. Yn ôl y naturiaethwraig Bethan Wyn Jones: Mae arogl y gwyddfid yn drymach ar awel yr hwyr am mai gwyfynod yn bennaf sy'n peillio'r gwyddfid, ac er mwyn denu'r gwyfynod hynny i beillio'r blodau mae'r gwyddfid yn rhyddhau perarogl.[2]
Cyfeirir at "laeth-y-gaseg" gan Dafydd Rowlands yn ei gerdd Dangosaf iti Lendid.[3]
Gerddi
golyguMae'r gwyddfid yn blanhigyn cyffredin mewn gerddi - yn bennaf gan eu bod yn gorchuddio hen waliau ac oherwydd lliw ac arogl y blodau. Mae'r mathau sy'n dringo'n hoffi gwreiddio yn y cysgod. Gallant ordyfu, gan dyfu'n wyllt, os nad ydynt yn cael eu tocio.[4]
Enwau
golyguYn ddiweddar defnyddiwyd yr enw fel enw ar ferch.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ngeiriadur Prifysgol Cymru
- ↑ Teitl: Arogleuon I Ddenu'r Cler; Gwefan y Daily Post;[dolen farw] adalwyd 30 Mehefin 2014.
- ↑ Gwefan Bitsesixe; Archifwyd 2014-07-17 yn y Peiriant Wayback BBC; adalwyd 30 Mehefin 2014.
- ↑ RHS A-Z encyclopedia of garden plants. United Kingdom: Dorling Kindersley. 2008. t. 1136. ISBN 1405332964.