Gwyfyn gwythïen goch

Timandra comae
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Geometridae
Genws: Timandra
Rhywogaeth: T. comae
Enw deuenwol
Timandra comae
(Schmidt, 1931)

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyfyn gwythïen goch, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwyfynod gwythien goch (-ion); yr enw Saesneg yw Blood-vein, a'r enw gwyddonol yw Timandra comae.[1]

Timandra comae
Timandra griseata

Ceir clystyrau ohonyn nhw yma ac acw drwy orllewin a chanol Ewrop. Yng ngwledydd Prydain, caiff ei weld mewn rhannau o Gymru a Lloegr.

Mae'r adenydd rhwng 30–35 mm a cheir dau swp o wyau pob blwyddyn gyda'r oedolion ar adenydd ym Mai a Mehefin ac eto rhwng Awst a Medi. Yn y nos y maen nhw'n hedfan ac mae'n nhw'n cael eu denu gan oleuni.

Cyffredinol

golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyfyn gwythïen goch yn lindysyn sydd yn bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.