Gwylliaid llwyni Awstralia
Roedd y Gwylliaid Llwyni (en: bushrangers) yn lladron oedd yn byw ar dir prysglwyn Awstralia (y Bwsh). Cafodd dros 2,000 o bobl eu disgrifio fel bushrangers gan y wasg, roedd y rhan fwyaf ohonynt yn lladron a throseddwyr cyffredin. Daeth ychydig o wylliaid llwyni yn enwog, gan cael eu cyfrif fel arwyr llên gwerin eu gwlad[1]. Maent yn rhan o hanes hir o droi dihirod yn arwyr, megis yn hanesion Robin Hood a Dick Turpin yn Lloegr, Jesse James a Billy the Kid yn yr Unol Daleithiau, neu Gwylliaid Cochion Mawddwy a Twm Siôn Cati yng Nghymru.
Hanes
golyguCafodd y gair bushranger ei ddefnyddio gyntaf yn Awstralia yn y flwyddyn 1805 i ddisgrifio tri dyn a oedd wedi rhwystro cert ger Sydney er mwyn dwyn. Wedi hynny bu'r gair yn cael ei ddefnyddio ar gyfer troseddwyr a oedd yn ymosod ar bobl ar y ffyrdd neu yn y bwsh (cefn gwlad Awstralia) ystyr tebyg i Leidr pen ffordd yng ngwledydd Prydain[2]. Daw'r bathiad Cymraeg o erthygl yn adrodd hanes safiad olaf Ned Kelly yn y Papur Baner ac Amserau Cymru ym mis Medi 1880[3].
Gwylliaid Enwog
golygu- Joe Byrne
- Martin Cash
- John Dunn
- Ben Hall
- Frank Gardiner
- John Gilbert
- Steve Hart
- Dan Kelly (brawd Ned isod)
- Ned Kelly
- Moondyne Joe (enw iawn - Joseph Bolitho Johns)
- John O'Meally
- Harry Power
- Captain Moonlight (enw iawn - Andrew George Scott)
- Captain Thunderbolt (enw iawn - Frederick Ward)
- Michael Howe
- Charles Russell ("Black Douglas")
-
Joe Byrne
-
John Dunn
-
Ben Hall
-
Moondyne Joe
-
Ned Kelly
-
Captain Moonlite
-
Captain Thunderbolt
Diwylliant poblogaidd
golyguYn yr un modd ag y mae troseddwyr Americanaidd yn ymddangos mewn nifer o ffilmiau, llyfrau, cerddoriaeth a theledu diwylliant Gorllewinol Gwyllt America, bu'r gwylliaid llwyni yn ymddangos yn rheolaidd mewn llenyddiaeth, ffilm, cerddoriaeth a theledu Awstralia. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Robbery Under Arms, nofel gan Thomas Alexander Browne (o dan y ffugenw Rolf Boldrewood) a gyhoeddwyd fel cyfres yn y Sydney Mail rhwng 1882 a 1883.[4] sef disgrifiad ffuglen cynnar o fywyd a gweithredoedd gwylliaid a fu'n sail i nifer o ffilmiau a chyfres deledu.[5]
- Y ddrama fawr gyntaf a ysgrifennwyd, a gyhoeddwyd ac a gynhyrchwyd yn Awstralia oedd The Bushrangers gan Henry Melville.
- Ned Kelly Oedd testun y ffilm hir cyntaf, The Story of the Kelly Gang, a gyhoeddwyd ym 1906.[6]
- Ym 1970 bu Mick Jagger o'r grŵp pop The Rolling Stones yn chware rhan Ned Kelly mewn ffilm
- Bu Dan Morgan yn destun ffilm ym 1976, Mad Dog Morgan , gyda Dennis Hopper yn chware rhan y gwylliad.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Davey, Gwenda (1993). The Oxford Companion to Australian Folklore. Melbourne: Oxford University Press. tt. 58–59. ISBN 0195530578.
- ↑ "Bushrangers of Australia" (PDF) (pdf). National Museum of Australia. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2007-06-14. Cyrchwyd 2007-04-16.
- ↑ "YMLADDFA GYDA GWYLLIAID LLWYNI AWSTRALIA - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1880-09-18. Cyrchwyd 2016-02-02.
- ↑ "Robbery Under Arms". Australian Scholarly Editions Centre. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-08-31. Cyrchwyd 2007-04-17.
- ↑ "Rolf Boldrewood". Internet Movie Database.
- ↑ IDBM Ned Kelly 1906 [1] adalwyd 3 Chwef 2016
- ↑ "Mad Dog Morgan (1976)". Internet Movie Database. Cyrchwyd 2016-02-03.