Ben Hall
Roedd Ben Hall (9 Mai 1837 — 5 Mai 1865) yn un o Wylliaid llwyni Awstralia. Roedd y gwylliad llwyni yn lladron a oedd yn crwydro cefn gwlad a threfi gwledig Awstralia, fel arfer yn dianc ar gefn ceffyl, fel lleidr pen ffordd. Troseddwyr a lladron oedd y rhan fwyaf o'r gwylliaid. Roedd Ben Hall, fel Ned Kelly, yn cael ei ystyried fel arwr gwerin.
Ben Hall | |
---|---|
Ganwyd | 9 Mai 1837 De Cymru Newydd |
Bu farw | 5 Mai 1865 o anaf balistig Billabong Creek |
Dinasyddiaeth | Awstralia |
Galwedigaeth | cigydd, bugail, hanesydd, Gwylliaid llwyni Awstralia |
Roedd Ben Hall yn byw ar adeg pan ddarganfuwyd aur yn Ne Cymru Newydd a thalaith Victoria. Aeth miloedd o bobl allan i'r llefydd lle darganfuwyd yr aur i geisio gwneud eu ffortiwn. Fel llawer o'r gwylliaid roedd Ben Hall a'i griw yn dwyn coetsis a oedd yn cario aur o'r meysydd aur. Roedd Ben Hall yn gallu osgoi cael ei arestio gan yr heddlu am flynyddoedd lawer oherwydd bod ganddo lawer o ffrindiau a pherthnasau i'w helpu.
Cefndir: yr arwr o herwr
golyguMewn llên gwerin, mae arwr o herwr nodweddiadol yn ffermwr neu'n berson diniwed arall sy'n cael ei orfodi i mewn i droseddu gan weithredoedd heddlu neu lywodraeth creulon neu anghyfiawn. Mae Ben Hall yn rhan o hanes hir o arwyr o herwyr sy'n cynnwys pobl fel Robin Hood yn Lloegr, Jesse James yn yr Unol Daleithiau a Twm Siôn Cati yng Nghymru.[1] Mewn llên gwerin mae'r arwr o herwr yn gyfaill i'r tlawd, yn garedig i fenywod a phlant, ac yn elyn i'r cyfoethog. Yn aml bydd yr arwr yn farw'n ddewr mewn brwydr yn erbyn grymoedd mwy grymus y gyfraith.[1] Mae pobl yn Awstralia wedi gweld Ben Hall fel arwr; mae eraill yn ei weld fel troseddwr clyfar iawn a ddygodd lawer o arian.
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Ben Hall ar 9 Mai 1837, yn Wallis Plains, ger Maitland,[2][3] yn Hunter Valley De Cymru Newydd. Ei rieni oedd Benjamin Hall (ganwyd ym Mryste, Lloegr, 1802) ac Eliza Somers (ganwyd yn Nulyn, Iwerddon, 1807). Roedd y ddau riant yn droseddwyr a fu mewn carchar yn Ne Cymru Newydd. Priodasant ym 1834. Ben oedd eu pedwerydd plentyn. Ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o'r carchar, symudon nhw i Hunter Valley. Gweithiodd Benjamin i Samuel Clift ar fferm o'r enw "Doona Run". Tua 1839, symudodd Benjamin i ddyffryn anghysbell i'r gogledd o Murrurundi. Adeiladodd gwt a dechreuodd ffermio gwartheg. Canfu hefyd wartheg gwyllt a cheffylau yn y bryniau cyfagos. Ym 1842, prynodd floc bach o dir yn Haydonton, ger Murrurundi, a dechreuodd siop gigydd. Gweithiodd y teulu'n galed, ond roedd problemau gyda'r heddlu dros wartheg a cheffylau wedi'u dwyn.[4] Tua diwedd 1850, symudodd Benjamin i lawr i ardal Afon Lachlan, gan fynd â'i blant, Ben, William, a Mary, a'i lysfab, Thomas Wade gydag ef.
Sandy Creek
golyguGadawodd Ben gartref a dechreuodd weithio ar lawer o ffermydd gwartheg ar hyd Afon Lachlan. Cafodd ei adnabod fel dyn stoc weithgar a gonest.[5] Ar 29 Chwefror 1856, yn 19 oed, priododd Hall â Bridget Walsh (1841-1923), merch ffermwr, yn Bathurst.[2] Ar 7 Awst 1859, cawsant fab, a enwyd ganddynt Henry. Roedd un o chwiorydd Bridget yn feistres (cariad) i'r gwylliad llwyni Frank Gardiner ; priododd chwaer arall John Maguire. Ym 1860, prydlesodd Ben Hall a John Maguire y fferm "Sandy Creek". Roedd yn fferm o 10,000 acr (4,047 ha) tua 50 cilometr (31 mi) i'r de o Forbes. Adeiladodd yno dŷ, siediau a buarthau stoc. Cododd wartheg a'u gwerthu ar faes aur Fflat Lambing. Cyfarfu â Frank Gardiner a oedd â siop gigydd yn Lambing Flat.[6]
Gwylliad llwyni
golyguMae haneswyr yn ansicr pam, ond newidiodd bywyd Hall. Erbyn dechrau 1862, roedd ei briodas mewn trafferthion. Gadawodd Bridget ef gan symud i mewn gyda chymydog, Jim Taylor, gan fynd â Henry ifanc gyda hi.[7][8] Roedd llawer o droseddwyr yn byw ac yn gweithio yn yr ardal lle'r oedd Hall yn byw. Daeth yn ffrindiau gyda Frank Gardiner. Roedd Gardiner eisoes ei eisiau gan yr heddlu am ladrad ac am saethu dau blismon cyn dianc. Ar 14 Ebrill, 1862, rhuthrodd Gardiner a Hall ar dri gyrrwr wagen bustach gan ddwyn eu heiddo.[4] Wythnos yn ddiweddarach gwelodd y gyrwyr ef yn rasys ceffylau Forbes. Gorchymynnodd Arolygydd yr Heddlu Syr Frederick Pottinger, a oedd hefyd yn y rasys, wrth yr heddlu i arestio Ben am ddefnyddio gynnau mewn lladrad gyda Gardiner.[4] Nid oedd y rheithgor yn y llys yn Orange yn credu bod digon o dystiolaeth i ddangos bod Hall wedi bod yn un o'r lladron. Ar ôl iddo gael ei ryddhau,[4] roedd yr heddlu yn cadw llygad barcud ar Ben Hall, i weld lle aeth a beth oedd yn ei wneud.
Lladrad wagen aur Forbes
golyguAr 15 Mehefin, 1862, gwnaeth Gardiner a grŵp o ddeg o ddynion, gan gynnwys Hall, dwyn wagen aur o Forbes ger Eugowra. Roedd gan y wagen, oedd yn cario aur o'r meysydd aur, mintai o'r heddlu i'w warchod. Fe wnaeth y gang ddwyn mwy na £14,000 o aur ac arian. Gwerth tua £4 miliwn yng ngwerth arian 2019. Dyma oedd lladrad aur mwyaf Awstralia.[9] Arestiwyd Hall a sawl un arall ym mis Gorffennaf. Unwaith eto, ni allai'r heddlu ddod o hyd i brawf bod Hall yn un o'r lladron. Fe wnaeth yr heddlu ei ryddhau ar ddiwedd Awst. Pan aeth Hall yn ôl i'w fferm, canfu fod ei dŷ wedi'i losgi. Roedd ei wartheg wedi cael eu gadael yn yr iardiau stoc ac wedi marw o newyn. Mae honiadau bod Syr Frederick Pottinger wedi gwneud hyn i gosbi Hall, ond nid yw pob hanesydd yn cytuno.[8] Roedd angen arian ar Hall a John Maguire i dalu eu costau cyfreithiol. Fe'u gorfodwyd i werthu prydles eu fferm yn Sandy Creek i berchennog gwesty o Forbes o'r enw John Wilson.
Gyda'i wraig, ei fab ifanc a'i fferm wedi mynd, symudodd Ben Hall yn raddol i fywyd troseddol fel gwylliad llwyni llawn amser. Ar 1 Mawrth 1863, bu bron i Hall a'i gynghreiriaid Patrick Daley (Patsy) a John O'Meally a chael eu dal gan yr Arolygydd Heddlu Norton a'r traciwr du Billy Dargin ym mynyddoedd Weddin.[8] Roedd tracwyr duon yn frodorion cynhenid Awstralia a ddefnyddiwyd gan yr heddlu am eu sgiliau i ddilyn pobl yn y llwyni. Ar ôl saethu ar ei gilydd, cafodd Norton ei ddal a dygwyd ei eiddo. Llwyddodd Dargin i ddianc i'r llwyni.[8] Aeth Hall a Daley ar drywydd Dargin drwy'r llwyni am 8 milltir (13 km). Pan wnaethant ei ddal, dywedasant wrtho eu bod yn edmygu ei ddewrder. Fe wnaethant ei ryddhau gan ddweud wrtho byddent yn gwneud cyrch ar y gwersyll heddlu'r noson honno.[10] Tra roedd yr heddlu allan yn chwilio amdanynt, fe ddygodd y criw gynnau a bwledi o wersyll yr heddlu. Aeth yr heddlu ar eu hôl ond roedd y gang wedi dwyn ceffylau gwell a chyflymach na rhai'r heddlu ac wedi dianc yn hawdd.[8]
Gang Ben Hall
golyguAeth Frank Gardiner i Queensland i guddio rhag yr heddlu ar ôl lladrad Eugowra [9]. Cymerodd Hall drosodd fel arweinydd y gang. Am dair blynedd cynhaliodd Hall nifer o droseddau cynlluniedig a beiddgar.[5] Roeddent yn dwyn o ffermdai yn bennaf, coetsis yn cario post ac aur, a gwestai gwledig. Roedd gang Hall yn cynnwys John Gilbert fel ei lefftenant. Ym 1863 y tri aelod arall oedd John O'Meally, John Vane a Michael Burke. Dim ond 20 mlwydd oed oedd Burke. Cafodd ei saethu a'i ladd ar 24 Hydref 1863, yn ystod lladrad yn nhŷ Henry Keightley yn Dunn's Plains. Roedd Vane eisiau saethu Keightley am ladd Burke, ond fe ataliodd Ben Hall ef rhag gwneud. Yn lle hynny gofynnodd am bridwerth o £500.[11] Roedd yn rhaid i Mrs Keightley marchogaeth i Bathurst gyda'r nos i gael yr arian o'r banc. Ychydig wythnosau yn ddiweddarach, ar 19 Tachwedd, cafodd O'Meally ei saethu a'i ladd yn ystod ymgais i ladrata o fferm Goimbla Station. Ildiodd Vane i'r heddlu a chafodd ei ddanfon i'r carchar. Ymunodd dau ddyn arall, James Gordon, (ffugenw James The Old Man Mount ) [11] a John Dunleavy, â'r gang, ond cafodd Gordon ei ddal yn ceisio ffoi yn Victoria ac ildiodd Dunleavy ar ôl cael ei anafu'n wael mewn brwydr arfog. Rhywbryd tua mis Hydref 1864, ymunodd John Dunn â Hall a Gilbert. Roedd gan Dunn warant yn ei erbyn i'w arestio ar ôl iddo fethu ag ymddangos yn y llys am achos yn ei erbyn am ladrad arfog.
Roedd yr heddlu'n ymddangos yn analluog o atal gang Ben Hall. Roedd y gang yn brysur iawn yn yr ardal yn ystod 1864. Er enghraifft:[12]
- Mawrth: lladrad arfog o goets y post rhwng Wellington ac Orange
- Mawrth 20: lladrad arfog o goets y post rhwng Wagga Wagga a Yass
- Mawrth: lladrad arfog o goets y post ger Cootamundra
- Ebrill 1: lladrad arfog o fferm Groggon Station ger Young, De Cymru Newydd gan ddwyn ceffylau, cyfrwyau a bwyd
- Ebrill 11: lladrata eiddo John Scarr a'i frawd ar y ffordd rhwng Burrowa (a elwir bellach yn Boorowa) a Marengo (a elwir bellach yn Murringo).
- Ebrill 11: lladrata o westy yn Back Creek
- 5 Mai: lladrata o gerti oedd ar y ffordd yn Marine Creek, ger Gooloogong
- 12 Mai: ceisio dwyn eiddo dyn oedd ar y ffordd ger Forbes
- 20 Mai: dwyn eiddo dau ddyn oedd ar y ffordd rhwng Cowra a Young, ger Gwesty'r Bang Bang
- 20 Mai: Lladrata o westy'r Bang Bang. Wedi dianc ar ôl brwydr arfog gyda'r heddlu
- 23 Mai: dwyn gan ddyn o'r enw Ah Too ger Burrowa
- 25 Mai: dwyn eiddo tri dyn oedd yn gwersylla yn Cudgell's Creek
- Mai 28: lladrad arfog o goets y post rhwng Young ac Yass. Ac Wedi dwyn eiddo'r holl bobl gwelsant ar y ffordd yn ystod y ddwy awr yr oeddent yn aros am y goets.
- Mai 28: ceisio lladrad coets bost ger Binalong. Cafodd Hall ei glwyfo yn ystod brwydr arfog gyda'r heddlu gan blismon o'r enw Cwnstabl Gill.
- 29 Mai: dwyn o fferm ger Binalong, gan fynd â cheffyl, cyfrwy a ffrwyn
- Mehefin: dwyn o fferm yn Marengo yn perthyn i John Pring
- Mehefin 13: dwyn o fferm yn perthyn i Charles Dunleavy, cymryd gynnau a bwyd
- Mehefin 23: dwyn o siop yn Canowindra a llosgi'r holl lyfrau cyfrifon. Cymerwyd y perchennog fel gwystl a cheiswyd cael £300 am ei ryddhau.
- Mehefin 24: ceisio dwyn o fferm yn perthyn i Mr Rothery, llosgwyd y das gwair mewn dial am ei fethiant.
- Gorffennaf 7: lladrad arfog o goets y post rhwng Bathurst a Carcoar. Hefyd yn lladrata o'r goets oedd yn mynd y ffordd arall.
Lladrad Canowindra
golyguGwnaeth gang Hall ladrata o Westy Robinson yn Canowindra a dal pobl y dref yn wystlon am dri diwrnod. Ni chafodd neb ei anafu a fu Hall yn annog y bobl i chwarae cerddoriaeth a dawnsio yn ystod cyfnod eu caethiwed. Cafodd y plismon lleol ei gloi yn ei gell ei hun. Pan osodwyd y bobl yn rhydd, talodd Hall arian iddynt. Talodd y gang i berchennog y gwesty am y bwyd a'r ddiod yr oeddent wedi'i ddefnyddio.[11] Cafodd cipio'r dref ei enwogi mewn cân gwerin Awstraliaid o'r enw John Gilbert.[13]
Roedd y gang yn dwyn gan bobl ac yn ymosod ar goetsis y post yn rheolaidd i'r de o Goulburn ar y briffordd rhwng Sydney a Melbourne.[11] Ar 15 Tachwedd 1864, ceisiodd y gang ddwyn y goets bost oedd yn rhedeg rhwng Gundagai a Yass ger Jugiong. Wrth aros am y goets, fe wnaeth y gang ddal a dwyn gan fwy na 60 o bobl, a oedd yn teithio ar hyd y ffordd. Un o'r rhai a ddaliwyd oedd plismon o'r enw James McLaughlin. Taniodd yr heddwas chwe ergyd at y criw, ond rhedodd allan o fwledi ac ildiodd ei hun i'r gang.[14] Gorchmynnwyd i heddwas oedd ar y goets, William Roche, gan ynad oedd yn eistedd wrth ei erbyn, i beidio â saethu at y lladron. Gorchmynnodd y gyrrwr, Bill Geoghegan, iddo fynd oddi ar y goets neu fe fyddai'n ei gicio allan. Dechreuodd Hall a Dunn saethu at ddau blismon arall a oedd yn marchogaeth y tu ôl i'r goets. Cafodd yr Is Arolygydd William O'Neill ei ddal yn gyflym gan y gwylliaid.[14] Roedd John Gilbert a'r Rhingyll Edmund Parry yn saethu at ei gilydd heb lawer o bellter rhyngddynt. Gwnaeth Gilbert saethu Sarsiant Parry yn gelain.[11] Dihangodd y Cwnstabl Roche i'r llwyn. Aeth y criw â'r holl arian ac eitemau gwerthfawr o'r goets a marchogaeth i ffwrdd. Mae Parry wedi'i gladdu yn Gundagai. Ar ei garreg fedd mae'n dweud "Edmund Parry, Rhingyll Heddlu NSW, a gollodd ei fywyd wrth wneud ei ddyletswydd wrth ymdrechu'n ddewr i geisio dal y gwylliad llwyni Gilbert gan yr hwn y cafodd ei saethu'n farw ger Jugiong." Ddeuddydd yn ddiweddarach, fe wnaeth y gang ladrata o'r goets bost rhwng Yass a Fflat Lambing. Ar 5 Rhagfyr, gwnaethant ladrata o'r goets bost rhwng Binalong a Burrowa.[14]
Lladrad Binda
golyguAr Ŵyl San Steffan, 1864, fe deithiodd Hall, John Gilbert, a John Dunn i dref Binda gyda thair merch leol. Y merched oedd Christina McKinnon 25 oed, (credir bod hi'n gariad Hall), Ellen Monks, 17 oed, a'i chwaer Margaret Monks, 19 oed.[15] Gyda'r merched, gwnaeth y gang lladrata o siop oedd yn eiddo i Edward Morriss.[15] Fe wnaethant gloi'r holl bobl leol i mewn i Westy'r Flag. Llwyddodd Morriss i ffoi o'r gwesty trwy ffenestr gefn am 2.00 y bore ac aeth at yr heddlu i adrodd yr hyn oedd wedi digwydd. Taniodd Gilbert sawl ergyd ato. Gwylltiodd Hall a llosgodd siop Morriss yn ulw.[16] Gadawodd y gang a'r merched y dref. Cafodd y tair merch eu dal a'u harestio gan y Ditectif James Pye am helpu'r gwylliaid ac fe'u hanfonwyd i Sydney i'w rhoi ar brawf. Ymunodd Morriss â'r heddlu.[15] Cafodd Margaret ei rhyddhau cyn yr achos llys.
Cynllun Pottinger
golyguRoedd yr heddlu dan bwysau mawr i ddal gang Ben Hall. Roedd y gang wedi gallu teithio o gwmpas y wlad ac yn mynd i unrhyw le y mynnent. Roedd eu gweithredoedd yn gwneud i'r heddlu edrych yn ffôl. Cafodd Syr Frederick Pottinger syniad am gynllun anarferol i'w dal. Roedd yn hysbys bod y gang yn hoffi rasys ceffylau; cawsant eu gweld mewn llawer o gyfarfodydd rasio cefn gwlad. Penderfynodd Pottinger cystadlu mewn ras yn Wowingragong, ger Forbes, ar 5 Ionawr 1865.[17] Credai y byddai hyn yn denu'r gang allan o'u cuddfan a byddai ei ddynion yn gallu eu dal. Ni ymddangosodd gang Ben Hall, a chollodd Pottinger ei swydd. Roedd Arolygydd Cyffredinol yr Heddlu o'r farn bod Pottinger wedi dwyn anfri ar yr heddlu drwy gymryd rhan mewn ras ceffylau tra roedd i fod wrth ei waith. Penderfynodd Pottinger fynd i Sydney i geisio cael awdurdodau'r heddlu newid eu meddwl, ond ar y ffordd saethodd ei hun yn ddamweiniol a bu farw.[17]
Marwolaeth Cwnstabl Nelson
golyguAr 26 Ionawr 1865, ymosododd y gang ar ddeg o bobl ar y ffordd ger Goulburn. Cyrhaeddodd yr heddlu a chafodd y gang eu herlyn i'r llwyni. Ychydig oriau yn ddiweddarach, aeth y gang i mewn i dref Collector. Aeth Hall a Gilbert i ladrata o westy The Commercial Hotel.[15] Arhosodd John Dunn y tu allan. Pan gyrhaeddodd heddwas lleol, Cwnstabl Nelson, saethodd Dunn ef yn farw. Gwelodd dau o blant Nelson llofruddiaeth eu tad, gan fod un yn wystl yn y gwesty a'r llall yn dilyn ei dad. Gwnaeth Gilbert ddwyn arian, gwn a phethau gwerthfawr eraill oddi ar gorff marw Nelson.[15] Gadawodd y gang y dref yn gyflym gan fynd i guddio.
Rhoddodd yr heddlu fwy o ymdrech i chwilio am y gwylliaid. Ym mis Chwefror, aethon nhw i dŷ ger Queanbeyan gan ganfod bod y gang newydd ymadael.[18] Roedd yr heddlu'n meddwl gallasai'r gang fod gyda ffrind iddynt, Thomas Byrne. Aethant i Westy Breadalbane ac arestio pedwar dyn y gwyddys eu bod yn ffrindiau i'r gang. Byddai hyn yn eu hatal rhag rhoi unrhyw rybudd i'r gwylliaid. Amgylchynodd yr heddlu fferm Byrne. Wrth iddynt symud heibio i ddrws ysgubor, dechreuodd y gang saethu atynt. Cafodd un plismon ei saethu yn ei law a'i goes. Dihangodd y gang i'r llwyni, ond saethwyd Ben Hall wrth iddo ffoi.[18]
Lladrad wagen aur Araluen
golyguAr 4 Mawrth 1865, fe wnaeth y gang ymosod ar y goets bost rhwng Goulburn a Gundaroo.[18] Ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, fe wnaethant ddwyn ceffylau o ddwy fferm. Ar 13 Mawrth, ceisiodd y gang cyrch ar wagen aur Araluen. Daethpwyd o hyd i aur yn Araluen yn y 1860au. Roedd y wagen aur yn cael ei warchod gan heddwas arfog yn eistedd wrth ymyl y gyrrwr. Roedd dau heddwas arall ar gefn y cerbyd. Marchogodd pedwar plismon arall ar geffylau o flaen a thu ôl i'r wagen. Roedd yr aur yn cael ei gadw mewn saff a oedd wedi'i folltio i lawr y wagen. (Mae'r wagen i'w gweld yn amgueddfa Braidwood [19]). Dechreuodd y gwylliaid saethu at y wagen. Cafodd y Cwnstabl Kelly ei saethu yn y frest. Cafodd ei frifo'n wael, ond cyrhaeddodd ochr y ffordd a dechreuodd saethu at y gwylliaid. Llwyddodd yr heddlu i amddiffyn y wagen. Cafodd plismon arall, Trooper Byrne, ei saethu yn ei droed. Gadawodd y gwylliaid yn waglaw ar frys pan gyrhaeddodd mintai o fwynwyr arfog o'r dref gyfagos.[18]
Deddf i Ddal Dihirod
golyguMewn dwy flynedd roedd gang Ben Hall wedi lladd dau heddwas, wedi lladrata o ddeg coets bost, wedi ymosod ar 21 adeilad, wedi dwyn 23 o geffylau rasio ac wedi meddiannu pentref Canowindra deirgwaith.[20]
Yn gynnar yn 1865, gwnaeth y llywodraeth ddeddf newydd i geisio dal Ben Hall, John Gilbert a John Dunn. Cafodd Deddf i Ddal Dihirod arbennig ei rhuthro'n gyflym drwy Senedd De Cymru Newydd[21]. Roedd y ddeddf yn gwneud Hall a'i gynghreiriaid yn " wtla " (outlaw) pe na baent yn ildio o fewn tri deg diwrnod. Golygai hyn y gallent gael eu lladd gan unrhyw un ar unrhyw adeg heb rybudd. Cynigwyd gwobr o £1000 am ddal Ben Hall.[18]
Er gwaethaf y ddeddf parhaodd y gwylliaid wrth eu hanfadwaith. Fe wnaethant ladrata o fferm Wallendbeen Station. Ymosodwyd ar grŵp o fwynwyr aur Tsieineaidd er mwyn eu lladrata a saethwyd un ohonynt gan Gilbert. Y diwrnod wedyn, 18 Mawrth, canfu'r heddlu'r gang yn ceisio dwyn ceffylau o Wallendbeen.[22] Yn y frwydr i geisio dal y gang, saethodd Gilbert yr Uwch gwnstabl Keane yn ei ysgwydd. Saethodd y Rhingyll Murphy Gilbert yn ei fraich. Dihangodd y criw i mewn i'r llwyni. Cawsant hyd i gwt bugail a gorfodwyd y bugail i roi rhwymyn ar fraich Gilbert. Cerddodd Hall a Dunn i fferm gyfagos, Beggan Beggan Station a dwyn ceffylau, cyfrwyau a ffrwynau. Aethant yn ôl i achub Gilbert cyn dychwelyd i'r fferm a dwyn gynnau, bwledi a bwyd.[22]
Cyflawnodd Hall, Gilbert a Dunn lladrad banc yn Forbes a chymryd £81 ar 25 Mawrth. Anfonwyd mwy o heddlu i'r ardal, a rhoddwyd gynnau gwell iddynt.[22] Mis yn ddiweddarach gwelwyd y gang ger Marengo. Ddeuddydd yn ddiweddarach aethon nhw â cheffylau a bwyd o fferm arall, Yamma Station. Dyma oedd lladrad olaf y gang.[22]
Dal a lladd
golyguErbyn Mai 1865, penderfynodd Ben Hall i adael De Cymru Newydd. Ond dywedodd dyn o'r enw, Mick 'Goobang' Coneley, a oedd unwaith wedi cynorthwyo'r gang, wrth yr heddlu lle'r oedd Hall yn cuddio. Yn ystod y nos, cafwyd hyd i Hall yn cysgu dan goeden yn Billabong Creek, ger Forbes gan grŵp o wyth heddwas. Roedd yr heddlu wedi eu harfogi gyda gynnau haels a reifflau colt 0.56 calibr. Dan arweiniad yr Is Arolygydd Davidson [23], amgylchynodd yr heddlu gwersyll y gwylliaid [24]. Ar doriad gwawr ar 5 Mai 1865, saethwyd Hall yn y cefn 30 gwaith wrth iddo geisio ffoi. Dywedodd adroddiad papur newydd fod "ei gorff yn llawn o fwledi".[24] Ni saethodd Hall ei bistol unwaith. Fe wnaeth ergydion cyntaf yr heddlu dorri ei wregys mewn dau, a syrthiodd ei gynnau i'r llawr.[25] Rhoddwyd gwobr o £500 i Goobang Mick. Rhoddwyd gwobr arall o £500 i'r heddlu.
-
Llun papur newydd o farwolaeth Ben Hall
-
Safle marwolaeth Ben Hall yn Billabong Creek
-
Bedd Ben Hall yn Forbes
-
Ben Hall
Cafodd corff Ben Hall ei lapio yn ei poncho, ei glymu i gefn geffyl a'i gludo yn ôl i Forbes.[25] Cynhaliwyd cwest swyddogol yn y llys i gael gwybod sut y bu farw, a chyflwynodd Davidson a Condell adroddiadau. Claddwyd Ben Hall ym Mynwent Forbes ddydd Sul, 7 Mai 1865. Aeth llawer o bobl i'r angladd.[24] Rhoddodd dau frawd o Forbes, y brodyr Pengilly, carreg ar y bedd yn y 1920au.[26] Daeth y goeden lladdwyd Hall odani yn atyniad. Roedd pobl yn y 1920au yn dal i allu gweld bwledi ym moncyff y goeden. Cafodd y goeden ei dinistrio mewn tân llwyni ym 1926.[26] Mae ei fedd yn derbyn gofal da ac mae llawer o bobl yn dal i ddod i edrych arno.[27] Mae gwn Ben Hall, pistol Colt, bellach yn Llyfrgell Genedlaethol Awstralia.[28]
Bu bron i Gilbert a Dunn cael eu dal gan yr heddlu wythnos yn ddiweddarach yn Binalong. Cafodd Gilbert ei saethu'n farw wrth iddo geisio rhedeg i ffwrdd. Llwyddodd Dunn i ddianc, ond chwe mis yn ddiweddarach dywedodd un o ffrindiau Dunn wrth yr heddlu lle'r oedd yn cuddio. Cafodd ei ddal, ei roi ar brawf am lofruddiaeth a'i grogi yn Sydney ar 19 Mawrth 1866.[22]
Wedi ei farwolaeth
golyguYn 2007, dywedodd Peter Bradley, un o ddisgynyddion brawd iau Hall, ei fod am ailagor y cwest i farwolaeth ei hynafiad. Dywedodd Bradley nad oedd Deddf i Ddal Dihirod yn gyfraith pan laddwyd Hall. Canfu'r cwest cyntaf fod y Hall wedi'i lladd yn fwriadol, ond caniatawyd hyn oherwydd bod y gyfraith newydd yn golygu bod Hall yn wtla.[29] Roedd y senedd wedi pasio'r gyfraith ar 12 Ebrill, ond ni ddaeth y gyfraith i rym tan 10 Mai. Roedd hynny bum niwrnod ar ôl i'r heddlu ei saethu i farwolaeth.[29]
Mae yna gofeb o'r enw "Ben Hall's Wall" yn Breeza,[30] i'r de o Gunnedah, De Cymru Newydd. Mae Parc Cenedlaethol "Ben Halls Gap" yn rhan fach o'r Goedwig Wladwriaethol i'r de o Nundle, De Cymru Newydd.[31] Nid yw wedi'i enwi ar ôl y gwylliad, ond ar ôl ei dad, Benjamin Hall.
Hall mewn diwylliant poblogaidd
golyguCerddoriaeth
golyguMae llawer o ganeuon gwerin yn dathlu bywyd a gweithredoedd Hall. Mae'r rhain yn cynnwys:
- "The Streets of Forbes": Dyma'r gân enwocaf am Hall. Efallai mai John Maguire, brawd-yng-nghyfraith Hall, a ysgrifennodd y gân.[13][32] Cafodd ei recordio gan nifer o gantorion a grwpiau gan gynnwys Paul Kelly, y Bushwackers, Gary Shearston,[33] June Tabor,[34] Martin Carthy,[35] Chris a Siobhan Nelson,[36] Warren Fahey [37] a Weddings Parties Anything
- "The Ballad of Ben Hall's Gang"
- "Brave Ben Hall".[13]
- "The Ghost of Ben Hall"..
- "Ben Hall" - a gasglwyd gan John Meredith oddi wrth Sally Sloane. Honnodd Sally mai chwaer-yng-nghyfraith Hall oedd y fydwraig adeg ei geni.[38]
- "Dunn, Gilbert and Ben Hall" - wedi'i olygu gan Banjo Patterson yn ei lyfr, Old Bush Ballads [39]
Ffilmiau
golygu- The Legend of Ben Hall, ffilm o Awstralia a gynhyrchwyd yn 2016. Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Matthew Holmes. Jack Martin, Jamie Coffa a William Lee sy'n serennu.[40]
- Ben Hall, Notorious Bush Ranger, neu A Tale of the Australian Bush [41] - a wnaed yn Sydney ym 1911. Sgript gan Patrick William Marony. Cyfarwyddwyd gan Gaston Mervale. Nid oes unrhyw gopïau wedi goroesi.[42]
- Ben Hall and His Gang - a wnaed yn 1911. Cyfarwyddwyd gan Jack Gavin ac ysgrifennwyd gan Agnes Gavin. Jack Gavin sy'n chware rhan Ben Hall. Ffilm ddu a gwyn, 33 munud o hyd.[43]
- Ben Hall - sioe deledu am Ben Hall o 1975. Cynhyrchiad ar y cyd gan y BBC ac ABC. Fe serennodd Jon Finch fel Ben Hall. Y cyfarwyddwr oedd Neil McCallum.[44] Ysgrifennwyd y gerddoriaeth thema ar gyfer y sioe gan Bruce Smeaton a'i chwarae gan y Bushwackers. Roedd gan y Bushwackers y gân ar eu halbwm "And The Band Played Waltzing Matilda".[45]
Celf
golyguDarluniwyd hanes Hall mewn llawer o weithiau celf.
- Patrick William Marony (1858-1939) The Death of Ben Hall [1] peintiad olew (1894), a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Awstralia.
- Patrick William Marony (1858–1939) Night Raid on Bathurst[2] , peintiad olew (1894), a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Awstralia.
- Patrick William Marony (1858–1939) Bushrangers attacking Goimbla[3], peintiad olew (1894) a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Awstralia.
- Patrick William Marony (1858-1939) Bourke; Ben Hall ; Frank Gardiner, King of the Road ; Gilbert ; Dunne [4], peintiad olew (1894) o aelodau'r gang (1894), a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Awstralia.
Theatr
golyguMae stori Hall wedi cael ei gyflwyno ar y llwyfan hefyd:
- Ysgrifennodd Lester Bellingham Bail UP, rywbryd rhwng 1887–1898, drama yn seiliedig ar daith enwog Mrs Keightley i Bathurst i achub bywyd ei gŵr [46]
- Ysgrifennodd yr awdur o Awstralia, Barry Dickins, ddrama un dyn o'r enw The Epiphany of Ben Hall Fe'i perfformiwyd yn Grenfell, Cowra, Parkes a Forbes yn 2007.
Llyfrau
golygu- Nick Bleszynski – You'll Never Take Me Alive – the life and death of bushranger Ben Hall (2005) – ISBN 1740512812
- Peter Bradley – The Judas Covenant – the betrayal and death of Ben Hall
- Jackie French – Dancing with Ben Hall – a collection of true stories. (1997) ISBN 0207187479. Jackie lives at Araluen, where Hall tried to rob the gold coach.
- Frank McClune – Ben Hall the Bushranger. (1947)
- Edgar F. Penzig – The Sandy Creek Bushranger – a definitive history of Ben Hall, his gang and associates (1985) ISBN 0958883610[47]
- Edgar F. Penzig – Ben Hall : the definitive illustrated history. (1996)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Davey, Gwenda; Graham Seal (1993). The Oxford Companion to Australian Folklore. Melbourne: Oxford University Press. tt. pgs 58–59. ISBN 0195530578.
- ↑ 2.0 2.1 "Ben Hall". Interesting certificates: bushrangers. NSW Births Deaths and Marriages. Cyrchwyd 2019-04-04.
- ↑ Orr, Hazel K. (2003). "Ben Hall". Bushranger profiles. University of New England, School of Education – "The Bushranger Site". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-20. Cyrchwyd 2007-10-17.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 Wilson, Chris (February 2000). "Ben Hall – Bushranger Part 1". Gold Net Australia On Line Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol (html) ar 2019-03-08. Cyrchwyd December 14, 2008.
- ↑ 5.0 5.1 The Australian Encyclopaedia: Volume 4. 1958. t. 413.
- ↑ Daily Telegraph - Bushranger Ben Hall fell into crime after a stockman stole wife’s heart adalwyd 4 Ebrill 2019
- ↑ True West: The Australian Jesse James Archifwyd 2018-03-18 yn y Peiriant Wayback adalwyd 4 Ebrill 2019
- ↑ 8.0 8.1 8.2 8.3 8.4 Wilson, Chris (March 2000). "Ben Hall - Bushranger Part 2". Gold Net Australia On Line Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol (html) ar 2019-03-08. Cyrchwyd 4 Ebrill 2019.
- ↑ 9.0 9.1 Alec Morrison: Frank Gardiner: Bushranger to Businessman (1830 to 1904); John Wiley & Sons Australia 2011; ISBN 978-1740310819
- ↑ "News and Notes by a Sydney Man, Brisbane Courier, April 6, 1863". National Library of Australia Newspapers. Cyrchwyd 2008-12-14.
- ↑ 11.0 11.1 11.2 11.3 11.4 Penzig, Edward (1972). "Hall, Benjamin". Australian Dictionary of Biography Online Edition. Cyrchwyd August 24, 2008.
- ↑ Wilson, Chris (April 2000). "Ben Hall – Bushranger Part 3". Gold Net Australia On Line Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol (html) ar 2019-03-08. Cyrchwyd December 14, 2008.
- ↑ 13.0 13.1 13.2 Edwards, Ron (1976). The Big Book of Australian Folk Song. Australia: Rigby. ISBN 0727001949.
- ↑ 14.0 14.1 14.2 Wilson, Craig (May 2000). "Ben Hall - Bushranger Part 4". Goldnet Australia On Line Magazine. Goldnet Australia. Cyrchwyd December 14, 2008.[dolen farw]
- ↑ 15.0 15.1 15.2 15.3 15.4 Wilson, Craig (June 2000). "Ben Hall - Bushranger Part 5". Goldnet Australia Online Magazine. Goldnet Australia. Cyrchwyd December 14, 2008.[dolen farw]
- ↑ "Binda, New South Wales". Sydney Morning Herald Travel. February 8, 2004. Cyrchwyd September 10, 2008.
- ↑ 17.0 17.1 "Pottinger, Sir Frederick William (1831-1865)". Australian Dictionary of Biography Online. Cyrchwyd 2008-12-14.
- ↑ 18.0 18.1 18.2 18.3 18.4 Wilson, Chris. "Ben Hall - Bushranger Part 6" (PDF). Fly to Australia newsletter. Archifwyd o'r gwreiddiol (pdf) ar 2022-04-10. Cyrchwyd December 6, 2008.
- ↑ Braidwood Museum adalwyd 4 Ebrill 2019
- ↑ NMA - Bushrangers adalwyd 4 Ebrill 2019
- ↑ REMEMBERING OUR ROBIN HOOD: BEN HALL adalwyd 4 Ebrill 2019
- ↑ 22.0 22.1 22.2 22.3 22.4 Wilson, Craig (August 2000). "Ben Hall - Bushranger Part 7". Goldnet Australia Online Magazine. Goldnet Australia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-15. Cyrchwyd December 19, 2008.
- ↑ Ben Hall the Bushranger adalwyd 4 Ebrill 2019
- ↑ 24.0 24.1 24.2 "Death of Ben Hall". Perth Gazette and West Australian Times, June 1865. Cyrchwyd 2008-08-13.
- ↑ 25.0 25.1 "Goldfields Reminiscences, Brisbane Courier, 29 March 1876". Australian Newspapers beta, National Library of Australia. Cyrchwyd 2008-12-22.
- ↑ 26.0 26.1 "Ben Hall's Memorial". The Canberra Times, December 31, 1926. Cyrchwyd 2008-08-13.
- ↑ ""Ben Hall – Bushranger"". www.wilmap.com.au. Cyrchwyd 2009-03-13.
- ↑ "Digital Collections – Pictures – Colt's Patent Firearms Manufacturing Company. [Ben Hall's revolver] [realia]". nla.gov.au. Cyrchwyd 2009-03-13.
- ↑ 29.0 29.1 "Family urges new Ben Hall inquest", - Meacham, Steve, The Age, Mawrth 31, 2007
- ↑ "Breeza, New South Wales". Sydney Morning Herald Travel. Cyrchwyd 2008-08-13.
- ↑ NSW National Parks and Wildlife Service Ben Halls Gap Nature Reserve Archifwyd 2019-04-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 4 Ebrill 2019
- ↑ Keesing, Nancy and Douglas Stewart, eds. Australian Bush Ballads (Sydney: Angus and Robertson, 1955
- ↑ "Gary Shearston". Only Love Survives. Cyrchwyd 2008-08-13.
- ↑ "June Tabor: Ashes and Diamonds". mainlynorfolk.info. Cyrchwyd 2017-09-14.
- ↑ "Streets of Forbes". Martin Carthy Discography. Cyrchwyd 2017-09-14.
- ↑ "Chris & Siobhan Nelson". mainlynorfolk.info. Cyrchwyd 2017-09-14.
- ↑ Warren Fahey – A Panorama of Bush Songs adalwyd 4 Ebrill 2019
- ↑ "Ben Hall". Australian Folk Songs. Cyrchwyd 2008-08-13.
- ↑ ADB Paterson, Andrew Barton (Banjo) (1864–1941) adalwyd 4 Ebrill 2019
- ↑ The Legend of Ben Hall review: The last days of a mystery man, adalwyd 4 Ebrill 2019
- ↑ "A Tale of the Australian Bush (1911)". IMDB. Cyrchwyd 2008-12-06.
- ↑ "Patrick William Marony". Ned Kelly Australian Iron Outlaw. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-01. Cyrchwyd 2008-12-06.
- ↑ "Ben Hall and his Gang (1911)". IMDB. Cyrchwyd 2008-12-06.
- ↑ "Ben Hall". The Memorable Guide to British Television. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-07-30. Cyrchwyd 2008-08-13.
- ↑ "TV Memories". Cyrchwyd 2008-08-13.[dolen farw]
- ↑ "Bail Up". National Library of Australia. Cyrchwyd 2008-10-22.
- ↑ "The Sandy Creek Bushranger". National Library of Australia. Cyrchwyd 2008-12-14.