Gwyn Alf Williams
Hanesydd o Gymru oedd Gwyn Alf Williams (30 Medi 1925 – 16 Tachwedd 1995) a gafodd ei eni yn Lower Row, Pen-y-Wern, Dowlais.[1] Roedd yn fab i Thomas John (1892–1971) a Gwladys Morgan (1896–1983): y ddau yn athrawon. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Castell Cyfarthfa a hefyd Gwernllwyn, capel yr Annibynwyr, lle y dysgodd cryn dipyn o Gymraeg a ble y derbyniodd gryn anniddigrwydd a gwrthwynebiad i'w syniadau Marcsaidd.
Gwyn Alf Williams | |
---|---|
Ganwyd | Gwyn Alfred Williams 30 Medi 1925 Dowlais |
Bu farw | 16 Tachwedd 1995 Dre-fach Felindre |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | hanesydd |
Cyflogwr |
Er iddo gael ei dderbyn, drwy ysgoloriaeth i Brifysgol Aberystwyth, fe'i gwysiwyd i ymuno â'r fyddin. Yna treuliodd flwyddyn yn adeiladu ffordd rhwng Zagreb a Belgrade yn Iwgoslafia, oherwydd ei ddaliadau comiwnyddol; ei arwr, bryd hynny, oedd y gwladweinydd Josip Broz Tito.[2] Wedi dychwelyd i Gymru ar ôl y rhyfel derbyniodd radd dosbarth cyntaf mewn hanes yn Aberystwyth a gradd feistr ddwy flynedd wedyn.Ym 1963 aeth i ddarlithio hanes ym Mhrifysgol Efrog a daeth yn Athro ddwy flynedd wedyn. Ym 1974 symudodd i Brifysgol Caerdydd.
Daeth yn enwog am ei ran yn y gyfres deledu ar hanes Cymru, The Dragon Has Two Tongues, fel gwrthwynebydd i'r hanesydd Wynford Vaughan-Thomas.[3]
Ar 12fed o Dachwedd 1979 traddododd ddarlith radio blynyddol BBC Cymry ar y testun When was Wales?.
Cyhoeddiadau
golygu- Medieval London, 1963
- Artisans and Sans-Culottes, 1968
- Proletarian Order, 1975
- Goya and the Impossible Revolution, 1976
- The Merthyr Rising, 1978
- Madoc: The Making of a Myth, 1979
- The Search for Beulah Land: the Welsh and the Atlantic Revolution, 1980
- The Welsh in Their History, 1982
- When was Wales?, 1985
- Excalibur: the Search for Arthur, 1994
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwyn A. Williams (1985) When was Wales?: a history of the Welsh (Black Raven Press) ISBN 0-85159-003-9
- ↑ (Saesneg) Stephens, Meic. "Williams, Gwyn Alfred (1925–1995)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/60385.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
- ↑ http://ftvdb.bfi.org.uk/sift/series/7083[dolen farw] BFI - The Dragon Has Two Tongues - A History Of The Welsh