Gwynn ap Gwilym

bardd, cyfieithydd, golygydd, nofelydd (1955-2016)
(Ailgyfeiriad o Gwyn ap Gwilym)

Bardd a golygydd Cymreig oedd Gwynn ap Gwilym (23 Mehefin 195031 Gorffennaf 2016)[1]. Ganed ef ym Mangor, Gwynedd a'i fagu ym Machynlleth.

Gwynn ap Gwilym
Ganwyd23 Mehefin 1950 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
Bu farw31 Gorffennaf 2016 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • NUI Galway Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, nofelydd, golygydd, cyfieithydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Yn y 70au bu Gwynn yn darlithio yn Adran Hen Wyddeleg a Gwyddeleg Ganol Prifysgol Iwerddon, Corc. Bu hefyd yn gyd-olygydd y cylchgrawn Barn rhwng 1979 ac 1981. Bu hefyd yn ddarlithydd mewn Hebraeg ac Astudiaethau Hen Destament yn y Coleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth.

Roedd ei waith barddonol yn cynnwys y cyfrolau Y Winllan Werdd (1977) a Gwales (1983). Cyhoeddodd nofel Da o Ddwy Ynys ym 1978. Nofel ffuglen wleidyddol oedd hi yn seiliedig ar hynt a helynt Gwladwriaethau Lloegr, Gweriniaeth Iwerddon a Chymru - ac argyfwng am Ogledd Iwerddon.

Clawr un o gyfrolau Gwynn.

Golygodd y gyfrol Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif i Gyhoeddiadau Barddas (1987) ar y cyd ag Alan Llwyd.

Yn 2014 fe'i penodwyd gan Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan yn Ganon yn esgobaeth Llandaf. Bu farw yn 2016 ar ôl brwydro canser ers rhai blynyddoedd gan adael ei wraig, Mari, a'i frawd y cerddor Barchedig Ifor ap Gwilym. Bu farw ei chwaer, Lona Jones yn 2015.[2]

Gwaith golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Manylion cyfarwyddwyr o Dy'r Cwmniau. Adalwyd ar 9 Chwefror 2016.
  2. Marw’r Prifardd Gwynn ap Gwilym , Golwg360, 31 Gorffennaf 2016.
  3. Andrew Green. "Sgythia". Gwallter. Cyrchwyd 26 Mehefin 2020.


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.