Esgobaeth Llandaf

un o esgobaethau'r Eglwys yng Nghymru

Esgobaeth yn ne-ddwyrain Cymru yw Esgobaeth Llandaf. Ei ganolfan yw cadeirlan Llandaf yn Llandaf, ger Caerdydd. Mae'r esgobaeth yng ngofal Esgob Llandaf.

Arfbais Egobaeth Llandaf

Creadigaeth gymharol ddiweddar oedd yr esgobaeth fel uned weinyddol yn yr Eglwys. Cyn cyfnod y Normaniaid roedd yna esgobaeth gynnar a sefydlwyd gan y seintiau Dyfrig a Teilo yn y 6g. Apwyntiwyd Esgob cyntaf Llandaf yn 1108, yn fuan wedi i'r Normaniaid ymsefydlu ym Morgannwg. Dechreuwyd adeiladu'r gadeirlan o 1190 ymlaen, ac fe'i cwblhawyd ym 1290. Bu William de Braose yn Esgob Llandaf o 1266 hyd 1287, ac efe a adeiladodd Capel y Forwyn Fair yno. Dinistriwyd plasdy'r esgob a gwnaed llawer o niwed i'r gadeirlan yng ngwrthryfel Owain Glyndŵr yn y 1400au.

Esgobaeth fechan o ran ei thiriogaeth yw Esgobaeth Llandaf. Mae'n gorwedd yn ne-ddwyrain Cymru ac yn cyfateb yn fras i hen deyrnasoedd Morgannwg a Gwent. Yn yr Oesoedd Canol roedd Brycheiniog i'r gogledd ac Ystrad Tywi i'r gorllewin yn rhan o esgobaeth gyfagos Tyddewi. Roedd y prif ganolfannau, ar wahân i Landaf ei hun, yn cynnwys:

Gweler hefyd golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.