Cymanfa ganu

(Ailgyfeiriad o Gymanfa Ganu)

Gwasanaeth canu emynau Cymraeg yw Cymanfa Ganu. Dechreuodd fel gwasanaethau canu emynau gan eglwysi anghydffurfiol Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, o tua 1830 ymlaen. Canu cynulleidfaol ydyw gyda nifer o leisiau.

Cymanfa ganu
Enghraifft o'r canlynolcymdeithas Edit this on Wikidata
Mathoedfa Edit this on Wikidata
Prif bwnccrefydd Edit this on Wikidata

Ar y cychwyn, roedd y Gymanfa Ganu yn achlysur pur ffurfiol gyda chanu disgybliedig, ond gyda dyfodiad y nodiant cerddorol sol-ffa a'i gwnaeth hi'n haws i bobl gyffredin ddarllen cerddoriaeth, daeth elfen o rwyddindeb i mewn a dechreuodd pobl fynd i'r Gymanfa Ganu fel achlysur cymdeithasol er mwyn cael cydganu'n hwyliog. Yn anterth y gymanfa, byddai miloedd o leisiau'n ymuno mewn cyngerddau, fel y gyfres a gynhaliwyd yn Neuadd Albert gan Gymry Llundain yn yr ugeinfed ganrif. Ymledodd y Gymanfa Ganu hefyd i gymunedau Cymraeg tramor, gan gynnwys yn yr Unol Daleithiau.


Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato