Héctor Bianciotti
Llenor Archentaidd yn yr iaith Ffrangeg oedd Héctor Bianciotti (18 Mawrth 1930 – 11 Mehefin 2012).[1]
Héctor Bianciotti | |
---|---|
Ganwyd | 18 Mawrth 1930 Calchín Oeste |
Bu farw | 12 Mehefin 2012 16ain bwrdeistref o Baris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, newyddiadurwr, beirniad llenyddol |
Swydd | Vice Chair of the French Academy |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Sans la miséricorde du Christ |
Gwobr/au | Officier de la Légion d'honneur, Cymrodoriaeth Guggenheim, Prix Femina, Gwobr Tywysog Pierre, Gwobr Médicis am lenyddiaeth dramor, Prix de la langue française, Officier de l'ordre national du Mérite, prix du meilleur livre étranger, Chevalier de la Légion d'Honneur |
Ganwyd yn Nhalaith Córdoba i deulu o dras Eidalaidd, a chafodd ei fagu yn y pampas. Dechreuodd astudio Ffrangeg yn 18 oed, a chyfieithodd ryddiaith Paul Valéry i'r Sbaeneg.[2]
Gadawodd yr Ariannin yn 1955, gan deithio i Sbaen a'r Eidal cyn iddo ymsefydlu yn Ffrainc yn 1961. Gweithiodd i'r cwmni cyhoeddi Gallimard ac fel newyddiadurwr llenyddol i Le Nouvel Observateur. Derbyniodd ddinasyddiaeth Ffrengig yn 1982, ac wedi hynny penderfynodd ysgrifennu drwy gyfrwng y Ffrangeg yn unig.[2]
Bu farw yn yr ysbyty ym Mharis yn 82 oed.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ (Sbaeneg) "Murió el escritor argentino Héctor Bianciotti", La Nacion (12 Mehefin 2012). Adalwyd ar 7 Mai 2019.
- ↑ 2.0 2.1 (Sbaeneg) "Falleció el escritor argentino Héctor Bianciotti", Clarín (12 Mehefin 2012). Adalwyd ar 7 Mai 2019.