Pampa

(Ailgyfeiriad o Pampas)

Y Pampas (pampa : benthycair o'r iaith Quechua, sy'n meddwl "gwastadedd") yw'r gwastadeddau ffrwythlon yn iseldiroedd De America sy'n cynnwys taleithiau Buenos Aires, La Pampa, Santa Fe, a Córdoba yn yr Ariannin, rhan helaeth o Wrwgwái, a phwynt deheuol Brasil, sef y Rio Grande do Sul, ac sy'n cynnwys dros 750,000 km² (290,000 milltir sgwar). Dim ond bryniau isel Ventana a Tandil ger Bahía Blanca a Tandil(Ariannin), sy'n cyrraedd 1,300 m a 500m, sy'n torri ar undonedd y gwastadeddau anferth hyn. Mae'r hinsawdd yn gymhedrol, gyda rhwng 600 a 1,200 mm o law, sy'n syrthio trwy'r flwyddyn ac sy'n gwneud y pridd yn addas ar gyfer amaethyddiaeth.

Pampa
Mathgwastatir, Stepdir, bïom Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolLa Plata lowland Edit this on Wikidata
Gwladyr Ariannin, Brasil, Wrwgwái Edit this on Wikidata
Uwch y môr160 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35°S 62°W Edit this on Wikidata
Map
Gweler hefyd Pampa (gwahaniaethu).
Golygfa o'r awyr o lynnoedd y Pampas (ger Buenos Aires)

Oherwydd y tanau niferus sy'n torri allan yn lleol, dim ond planhigion llai fel gwair sy'n tyfu yno a phrin yw'r coed. Mae "Gwair Pampas" (Cortaderia selloana) yn blanhigyn sy'n nodweddiadol o'r Pampas. Mae'r Pampas yn gartref i ystod eang o rywogaethau brodorol eraill, ac eithrio coed brodorol, sydd ddim ond i'w cael ar hyd yr afonydd.

Gellid rhannu'r pampas yn dair ardal ecolegol. Gorwedd safana Wrwgwái i'r gorllewin o afon Wrwgwái, ac mae'n cynnwys y cyfan o Wrwgwái a rhan ddeheuol Rio Grande do Sul ym Mrasil. Mae'r Pampas Gwlyb yn cynnwys dwyrain talaith Buenos Aires, a de talaith Entre Rios. Mae'r Pampas Sych, lled-anial, yn cynnwys gorllewin talaith Buenos Aires a rhannau o dalaith Santa Fe, Cordoba, a La Pampa yn yr Ariannin. Mae'r Pampas yn ffinio ar weirdiroedd espinal yr Ariannin.

Ar bampas canolbarth yr Ariannin ceir busnesau amaethyddol llwyddiannus, gyda chnydau'n cael eu tyfu ar y Pampas i'r de a'r gorllewin o Buenos Aires. Mae ffawydd soi yn nodweddiadol a phwysig. Mae rhan helaeth yr ardal yn gartref i ffermydd lle megir gwartheg yn ogystal. Ond mae llifogydd yn broblem ar y tiroedd amaethyddol artiffisial hyn.

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu