Ho Chi Minh
Gwladweinydd a chwyldroadwr o Fietnam a arweiniodd y wlad honno i annibyniaeth oddi ar Ffrainc oedd Ho Chi Minh (enw genedigol, Nguyễn Sinh Cung,[1] 19 Mai 1890 - 2 Medi 1969). Gwasanaethodd fel Prif Weinidog Fietnam o 1946 hyd 1955, ac fel Arlywydd Fietnam o 1955 tan ei farw. Ail-enwyd dinas Saigon yn Ddinas Ho Chi Minh er ei anrhydedd ar ddiwedd Rhyfel Fietnam ym 1976.
Ho Chi Minh | |
---|---|
Ffugenw | Nguyễn Ái Quốc, Hồ Chí Minh, Nguyễn Tất Thành |
Llais | Ho Chi Minh reading the Proclamation of Independence of the Democratic Republic of Vietnam on 2 September 1945.wav |
Ganwyd | Nguyễn Sinh Cung 19 Mai 1890 Kim Liên |
Bu farw | 2 Medi 1969 o methiant y galon Hanoi |
Man preswyl | Hanoi |
Dinasyddiaeth | Gogledd Fietnam, Indo-Tsieina Ffrengig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd, gwleidydd, newyddiadurwr, person milwrol |
Swydd | member of the National Assembly of Vietnam, General Secretary of the Communist Party of Vietnam, Arlywydd Fietnam, Prif Weinidog Fietnam |
Plaid Wleidyddol | Communist Party of Vietnam, Plaid Gomiwnyddol Ffrengig, Adran Ffrengig o'r Gweithwyr Rhyngwladol, Indochinese Communist Party |
Tad | Nguyễn Sinh Sắc |
Mam | Hoàng Thị Loan |
Gwobr/au | Urdd Lenin, Gold Star Order, Uwch Groes Urdd Polonia Restituta |
llofnod | |
Bywyd cynnar a theulu
golyguGanwyd Ho mewn cwt gwellt yn Kim Lien, pentref bychan yn ardal Nan Dan, ar 19 Mai 1890. Defnyddiodd yr enw Nguyen Sinh Cung nes oedd tua 10 oed, pan dewisodd ei dad enw arall iddo, Nguyen Tat Thanh.[2] Bu farw ei fam pan oedd yn 10 oed.[3]
Roedd ei dad, Nguyen Sinh Sac neu Nguyen Sinh Huy, yn fab i werinwr. Gweithiodd ar fferm a phriododd merch y ffermwr. Astudiodd llenyddiaeth Tsieineeg cyn ennill trwyddedog a dysgu yn Hué a Thanh Hoa. Ym 1905, penodwyd yn ysgrifennydd yn swyddfa seremonïol y palas imperialaidd yn Hué, yn fuan wedi marwolaeth ei wraig. Yn hwyrach daeth yn ddirprwy raglaw dros Bin Khe, ond cafodd ei ddiswyddo gan yr awdurdodau Ffrengig oherwydd ei gasineb tuag at ei waith. O hynny ymlaen bu'n byw bywyd crwydrol, gan deithio o Saigon i Phnom Penh ac Angkor. Bu farw mewn pagoda yng ngorllewin Cochinchina, tua 1930.[4]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golyguFfynonellau
golygu- Brocheux, Pierre. Ho Chi Minh: A Biography (Caergrawnt, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2003 [2007]). Cyfieithwyd gan Claire Duiker.
- Lacouture, Jean. Ho Chi Minh (Llundain, Allen Lane, 1968 [1967]). Cyfieithwyd gan Peter Wiles.