HMS Glamorgan (D19)

Llong ddistryw y Llynges Frenhinol gyda dadleoliad o 5,440 tunnell oedd yr HMS Glamorgan. Adeiladwyd y llong gan Vickers-Armstrongs yn Newcastle upon Tyne a chafodd ei henwi ar ôl Sir Forgannwg (Saesneg:Glamorgan) yn ne Cymru. Fe'i lansiwyd ar 9 Gorffennaf 1964, a chafodd ei throsglwyddo i'r Llynges dwy flynedd yn ddiweddarach.[1] Rhwng 1977 a 1979, cafodd ei hail-ddodrefnu,[2] pan newidiwyd tŵr 'B' gyda phedwar lansiwr Exocet.[3] Yng Ngwanwyn a dechrau Haf 1982, bu'r llong yn rhan o Ryfel y Falklands. Yn ystod diwrnodau olaf y rhyfel, saethodd technegwyr llyngesol yr Ariannin daflegryn MM-38 Exocet o'r tir, ar ôl i'r llong symud yn rhy agos i'r lan. Difrodwyd y llong yn ddifrifol, a lladdwyd 13 o'r morwyr a oedd arni. Ym 1982 treuliwyd sawl mis yn adnewyddu'r llong ac erbyn 1983 roedd hi'n hwylio unwaith eto. Cafodd ei defnyddio gan y Llynges Frenhinol am y tro olaf ym 1984 oddi ar arfordir Lebanon yn cynorthwyo lluoeodd cadw'r heddwch Prydeinig.[4]

HMS Glamorgan
Enghraifft o'r canlynolguided missile destroyer, llongddrylliad Edit this on Wikidata
Map
Gweithredwry Llynges Frenhinol, Chilean Navy Edit this on Wikidata
GwneuthurwrVickers-Armstrongs Edit this on Wikidata
Hyd160 metr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dadgomisiynwyd y llong ym 1986, ac fe'i gwerthwyd i Lynges Chile, lle cafodd ei hail-enwi'n Almirante Latorre.

Y criw a laddwyd yn Rhyfel y Falklands golygu

Lladdwyd y bobl canlynol ar fwrdd HMS Glamorgan.[5]

  • Is-swyddog J. Adcock
  • Cogydd Brian Easton
  • Air Engineering Mechanic Mark Henderson
  • Mecanig Peirianneg Awyr Brian P. Hinge
  • Prif Fecanig Peirianneg Awyr Gweithredol David Lee
  • Cogydd Brian J. Malcolm
  • Celfyddwr Peirianneg Awyr Kelvin I. McCallum
  • Mecanig Peirianneg Morol Terence W. Perkins
  • Prif gogydd Mark A. Sambles
  • Prif gogydd Anthony E. Sillence
  • Stiward John D. Stroud
  • Is-gapten David H. R. Tinker
  • Is-swyddog Colin P. Vickers

Cyfeiriadau golygu

  1. HMS Glamorgan, the first two years
  2. Author: Cooke, Anthony (1992). Emigrant ships: the vessels which carried migrants across the world, 1946-1972. Carmania Press, p. 32. ISBN 0951865609
  3. Fitzsimmons, Bernard (1978). The Illustrated encyclopedia of 20th century weapons and warfare, Volume 7. Columbia House, p. 749
  4. Lebanon 1982-84 Archifwyd 2009-12-11 yn y Peiriant Wayback. O wefan "Britain small wars"]
  5. Tinker, p. 212