Y Llynges Frenhinol

(Ailgyfeiriad o Llynges Frenhinol)

Prif gangen morwrol Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig ydy'r Llynges Frenhinol. Fe'i ffurfiwyd yn y 16g ac felly hi yw'r gangen hynaf a chaiff ei galw ar adegau yn the Senior Service. O ddiwedd yr 17g hyd at yr 20g hi hefyd oedd llynges fwyaf pwerus y byd ,[1] ac yn gyfrifol i raddau helaeth iawn am sefydlu'r Ymerodraeth Brydeinig. Oherwydd hyn cyfeirir ati drwy'r byd fel "y Llynges Frenhinol" heb ddisgrifiad daearyddol pellach.

Y Llynges Frenhinol
Enghraifft o'r canlynolllynges Edit this on Wikidata
Rhan oHis Majesty's Naval Service Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1546 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysHa-Yishuv's volunteers in the Royal Navy, Q124497644 Edit this on Wikidata
Gweithwyr32,500 Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliady Weinyddiaeth Amddiffyn Edit this on Wikidata
PencadlysWhitehall Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.royalnavy.mod.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Logo'r Llynges Frenhinol

Yn dilyn ei llwyddiant honedig yn y Rhyfel Mawr cafodd ei chwtogi gryn dipyn,[2] er ei bod yn parhau i fod y llynges fwyaf yn y byd ar gychwyn yr Ail Ryfel Byd. Ar ddiwedd y rhyfel hwn roedd Llynges yr Unol Daleithiau wedi'i goddiweddu i fod y mwyaf. Dros gyfnod y Rhyfel Oer cafodd ei chwtogi ymhellach gan ganolbwyntio ar adnabod a difa llongau tanfor yr Undeb Sofietaidd yn bennaf, a hynny ym Môr y Gogledd. Cyn Datgyfannu'r Undeb Sofietaidd yn y 1990au dychwelwyd at hwylio holl gefnforoedd y byd[3].[4]

HMS Ocean: un o longau tir-a-môr ymosodol y Llynges Frenhinol

Mae'r llynges heddiw'n cynnwys llongau technegol soffistigedig iawn[5] sy'n cynnwys llong cludo awyrennau, llong tir-a-môr ymosodol (amphibious assault ship), dwy long docio tir-a-môr symudol (amphibious transport dock), pedair llong danfor gyda thaflegrau balistig (gyda gallu niwclear, saith llong tanfor niwclear, chwech llong ddistryw gyda thaflegrau (guided missile destroyers), 13 ffrigad, 15 llong clirio ffrwydron morwrol a 24 cwch patrôl. Yng ngwanwyn 2013 roedd gan y Llynges 79 llong wedi'u comisiynnu (neu ar waith) yn y Royal Fleet Auxiliary (RFA), 13 llong gomisiwn a 6 llong fasnachol a gaiff eu hurio. Caiff llongau'r Llynges Frenhionol eu cyflenwi gyda thanwydd, bwyd ac arfau gan dri llong lanio a docio.

Cyfeiriadau golygu

  1. "The Royal Navy". Britannica Online. Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd 3 June 2009.
  2. Rose, Lisle Abbott. Power at Sea: The Breaking Storm, 1919–1945, University of Missouri Press, 2006, tud. 36.
  3. "Royal Navy - A Global Force 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-25. Cyrchwyd 2013-04-20.
  4. The Royal Navy, DEPLOYED FORWARD - OPERATING GLOBALLY
  5. Getting ship shape: IfM develops a fleet management tool for the Royal Navy