Gwneuthurwr ffonau clyfar a thabledi o Daiwan yw HTC Corporation (Tsieinëeg: 宏達國際電子股份有限公司, Pinyin: Hóngdá Guójì Diànzǐ Gǔfèn Yǒuxiàn Gōngsī), a adnabuwyd gynt fel High Tech Computer Corporation,[1] Dechreuodd y cwmni drwy gynhyrchu ffonau'n defnyddio system weithredu Windows Mobile Microsoft, ond yn 2009, dechreuodd symud oddi wrth Windows Mobile i greu dyfeisiadau ar sail system weithredu Android, ac yn 2010 dechreuont gynhyrchu ffôn ar sail Windows Phone hefyd.

HTC
Enghraifft o'r canlynolbusnes, menter, cwmni cyhoeddus Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu15 Mai 1997, 1997 Edit this on Wikidata
PerchennogVIA Technologies Edit this on Wikidata
SylfaenyddPeter Chou, Cher Wang Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolWi-Fi Alliance, SD Association Edit this on Wikidata
Gweithwyr17,280 Edit this on Wikidata
Isgwmni/auBeats Electronics, S3 Graphics Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolcwmni cyd-stoc Edit this on Wikidata
Cynnyrchffôn clyfar, tabled cyfrifiadurol Edit this on Wikidata
PencadlysDinas Newydd Taipei Edit this on Wikidata
GwladwriaethTaiwan Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.htc.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Pencadlys HTC yn Taoyuan.

Mae HTC yn aelod o'r Open Handset Alliance, grŵp o wneuthurwyr setiau llaw a gweithredwyr rhwydweithiau ffonau symudol sy'n cysegru eu hunain tuag at ddatblygu'r platfform Android ar gyfer dyfeisiau symudol.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1.  HTC Corporation: Snapshot. Bloomberg Business Week. Adalwyd ar 2011-01-06.
  2.  Google unveils cell phone software and alliance. CNET News (5 Tachwedd 2007). Adalwyd ar 8 Gorffennaf 2010.

Dolenni allanol golygu