Plasty Hafodunos

plasty gwledig rhestredig Gradd I yn Llangernyw
(Ailgyfeiriad o Hafodunos)

Codwyd Plasdy Hafodunos (neu Neuadd Hafodunos), Llangernyw, Bwrdeisdref Sirol Conwy, rhwng 1861 ac 1866; wedi ei gynllunio gan y pensaer, Syr George Gilbert Scott (1811 - 1878), ar gost o tua £30,000 - a hynny ar gyfer Henry R. Sandbach. Roedd Henry yn fab i Samuel Sandbach, masnachwr a pherchennog llongau o Lerpwl a brynodd y safle yn 1831, ble roedd hen plasty a oedd yn dyddio o hanner cyntaf yr 17g.

Plasdy Hafodunos
Mathplasty gwledig Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1866
  • 1 Ionawr 1864 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYstad Hafodunos Edit this on Wikidata
LleoliadLlangernyw Edit this on Wikidata
SirLlangernyw Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr193.6 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1883°N 3.69633°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolyr Adfywiad Gothig Edit this on Wikidata
PerchnogaethHenry Robertson Sandbach, Samuel Sandbach Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Adeiladwyd y plasty mewn arddull Gothig-Fenesaidd, gan ddefnyddio brics coch a thoeau llechi. Ystyrir Hafodunos yn un o'r enghreifftiau gorau o blastai'r pensaer, yn ail yn unig i Neuadd Kelham, Swydd Nottingham; yr unig dŷ iddo ei gynllunio yng Nghymru. Y tu fewn roedd rhai nodweddion cwbwl nodweddiadol o arddull Scott: drysau dull Pugin, nenfydau asennog, a simneiau marmor a charreg.

Hafodunos tua 1900.

Roedd yma gerfluniau nodedig gan gynnwys eitemau gan John Gibson (1790-1866).

Llun o'r plasty ar ôl y tân.

Yn y gerddi ceid sawl enghraifft o blanhigion tramor, prin a blannwyd yno gan y botanegydd a'r garddwriaethydd Syr William Hooker neu ei fab y botanegydd enwog J. D. Hooker.

Yn ddiweddar, bu Hafodunos yn ysgol breswyl i ferched, yn goleg cyfrifo ac yn gartref gofal. Dinistriwyd yr adeilad gan dân ym mis Hydref 2004. Mae cynlluniau ar y gweill i'w hadfer; mae'r datblygwyr SFJ Cyf, o Fae Colwyn wedi cyflwyno cais i Gyngor Conwy am ganiatâd cynllunio i droi'r tŷ rhestredig Gradd 1 yn westy.

Dolenni allanol golygu