Hagia Sophia
Adeiladwyd Hagia Sophia (Groeg: Άγια Σοφία, Twrceg Ayasofya), fel eglwys rhwng 532 a 537 yng Nghaergystennin, yn awr Istanbwl, Twrci. Ystyr yr enw yw "(Eglwys y) Doethineb Sanctaidd".
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | atyniad twristaidd, mosg ![]() |
Daeth i ben | 404, 14 Ionawr 532 ![]() |
Label brodorol | Αγία Σοφία ![]() |
Crefydd | Eglwysi uniongred, islam ![]() |
Rhan o | Ardaloedd Hanesyddol Istanbul ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 23 Chwefror 532 ![]() |
Lleoliad | Sultanahmet ![]() |
![]() | |
Sylfaenydd | Cystennin I ![]() |
Enw brodorol | Αγία Σοφία ![]() |
Rhanbarth | Fatih, Istanbul ![]() |
Gwefan | https://muze.gen.tr/muze-detay/ayasofya ![]() |
![]() |
Fe'i hadeiladwyd yn ystod teyrnasiad Justinian fel ymerawdwr yr Ymerodraeth Fysantaidd, ac ystyrir yr adeilad fel un o gampweithiau pensaernïaeth Fysantaidd. Y penseiri oedd dau Roegwr, Antemios o Tralles ac Isidoros o Miletus. Defnyddiwyd yr adeilad fel eglwys am 916 mlynedd, hyd nes i'r Ymerodraeth Ottomanaidd gipio Caergystennin yn 1453. O hynny hyd 1935 bu'n gweithredu fel mosg, ond yn y flwyddyn honno cafodd yr adeilad ei droi yn amgueddfa.