Hamm
Dinas yn nhalaith Nordrhein-Westfalen yn yr Almaen yw Hamm. Saif ar lannau afonydd Lippe ac Ahse ac ar hyd Camlas Lippe-Seiten, yng ngogledd-ddwyrain Ardal y Ruhr.
Trem ar Hamm o'r awyr (2007). | |
Math | dinas fawr, dinas Hanseatig, bwrdeistref trefol yr Almaen, urban district of North Rhine-Westphalia, Option municipality |
---|---|
Poblogaeth | 180,761 |
Pennaeth llywodraeth | Thomas Hunsteger-Petermann, Marc Herter, Jürgen Wieland, Sabine Zech, Werner Figgen, Werner Figgen, Günter Rinsche, Heinrich Langes, Heinz Diekmann, Ferdinand Poggel |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Oranienburg, Afyonkarahisar, Bradford, Chattanooga, Kalisz, Mazatlan, Sinaloa, Toul, Crotone, Santa Monica, Mitte |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Regionalverband Ruhr |
Sir | Ardal Llywodraethol Arnsberg |
Gwlad | yr Almaen |
Arwynebedd | 226.43 km² |
Uwch y môr | 63 metr |
Gerllaw | Datteln-Hamm Canal |
Yn ffinio gyda | Coesfeld, Ardal Warendorf, Soest, Unna, Ahlen, Welver, Drensteinfurt |
Cyfesurynnau | 51.6667°N 7.8167°E |
Cod post | 59001–59077 |
Pennaeth y Llywodraeth | Thomas Hunsteger-Petermann, Marc Herter, Jürgen Wieland, Sabine Zech, Werner Figgen, Werner Figgen, Günter Rinsche, Heinrich Langes, Heinz Diekmann, Ferdinand Poggel |
Sefydlwyd ym 1226 fel prifddinas Iarllaeth Mark, un o daleithiau Cylch y Rheindir Isaf a Westfalen yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Bu'n aelod ffyniannus o'r Cynghrair Hanseataidd nes i ryfeloedd yr 17g a'r 18g achosi dirywiad economaidd. Adfywiwyd y ddinas yn sgil y Chwyldro Diwydiannol yn y 19g. Cafodd Hamm ei bomio o'r awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd a dinistriwyd y mwyafrif o'r adeiladau. Ailadeiladwyd y ddinas wedi'r rhyfel, ac ym 1959 codwyd nendwr sy'n gartref i Oruchaf Lys Nordrhein-Westfalen.
Mae Hamm yn gyffordd rheilffyrdd bwysig. Prif ddiwydiannau'r ddinas yn yr 21g yw cynhyrchu gwifrau a cheblau, a'r sector electroneg. Mae ambell safle ddiwydiannol drom o hyd yn y ddinas, a phyllau glo yn y cyffiniau.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Hamm. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Tachwedd 2024.