Hana Lili

canwr-cyfansoddwr Cymreig

Canwr-gyfansoddwr o Gymru sy'n canu yn Gymraeg ac yn Saesneg yw Hana Lili (ganed 2000).[1]

Hana Lili
Ganwyd2000 Edit this on Wikidata
Bro Morgannwg Edit this on Wikidata
Man preswylSili, Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr-gyfansoddwr, canwr Edit this on Wikidata

Mae hi'n dod o Sili, Bro Morgannwg. Dysgodd ganu'r piano a'r ffliwt pan oedd hi'n blentyn a dechreuodd berfformio'n gyhoeddus pan oedd yn 12 oed.[1] Fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, mae hi'n canu yn Gymraeg ac yn Saesneg.[2]

Dechreuodd ei gyrfa dan yr enw HANA2K.[1] Dan yr enw Hana Lili, yn 2021 defnyddiwyd un o’i senglau, Stay, fel trac cefndir yng nghyfres ITV “Love Island”.[3]

Yn gynnar yn 2023 ffurfiodd hi fand, a pherfformion nhw yng Ngwyl Fach y Fro, Ynys y Barri fis Mawrth 2023. Canodd hi hefyd gyda'r prif berfformiwr, Gwilym, ar ddiwedd yr Ŵyl.[4] Cydweithiodd hi ar sengl (a fideo) Gwilym, Cynbohir, yn 2022.[5]

Ar 6 a 7 Mehefin, cefnogodd Hana Lili y band Coldplay yn Stadiwm Principality Caerdydd, fel rhan o'u taith ryngwladol, Music of the Spheres. Canodd gwpwl o'i chaneuon Cymraeg.[2]

Yn 2021 roedd yn byw yn Llundain.[6]

Disgyddiaeth

golygu
  • Flowers Die In The Summer (EP) Hydref 2021[6]
  • Existential (EP) Rhagfyr 2022[7]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 "AAA Music Approved: HANA2K" (yn Saesneg). AAA Music. 2 Awst 2018. Cyrchwyd 18 Awst 2024.
  2. 2.0 2.1 "Meet the Welsh singer supporting Coldplay at the Principality Stadium". Nation.Cymru (yn Saesneg). 6 Mehefin 2023. Cyrchwyd 15 Awst 2024.
  3. Hall, Rachel (13 Awst 2021). "'It's a tastemaker': how Love Island can launch a musician's career" (yn Saesneg). theguardian.co.uk. Cyrchwyd 18 Awst 2024.
  4. Jamshidian, Harry (18 Mawrth 2023). "Free festival with live music coming to Barry after big 2022". Penarth Times. Cyrchwyd 19 Awst 2024.
  5. Gowan-Day, Ally-Joh (5 Awst 2022). "'Cynbohir' by Gwilym and Hana Lili - Video of the Week". Wales Arts Review. Cyrchwyd 19 Awst 2024.
  6. 6.0 6.1 Murray, Robin (18 Hydref 2021). "Hana Lili Announces Debut EP 'Flowers Die In The Summer'" (yn Saesneg). Clash Music. Cyrchwyd 18 Awst 2024.
  7. "New Noise: Hana Lili - "Solitude"" (yn Saesneg). Wonderland Magazine. 13 Rhagfyr 2022. Cyrchwyd 18 Awst 2024.

Dolenni allanol

golygu


{{DEFAULTSORT:Lili, Hana]]