Stori fer alegorïaidd ac iddi bwrpas addysgol neu foesol yw dameg. Fel rheol, bodau dynol ydy cymeriadau dameg;[1] gelwir stori debyg sydd yn cynnwys anifeiliaid neu fodau eraill yn gymeriadau dynweddol yn ffabl. Nod y ddameg yw llunio cydweddiad rhwng esiampl o ymddygiad dynol ac ymddygiad y ddynolryw yn gyffredinol. Gellir olrhain y ddameg yn ôl i draddodiadau llên lafar cynllythrennog fel modd o drosglwyddo doethineb y werin o oes i oes.[2]

Geirdarddiad golygu

Talfyriad o "adameg" yw'r gair dameg.[3] Ceir enghreifftiau o "adameg" yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr yn y 14g a'r 15g. Ansicr yw bôn ieithyddol y gair,[4] er ei fod yn bosib ei fod yn rhannu'r un gwreiddyn Celteg â "gofeg", sef *meigh- neu meik- sy'n golygu disgleirio neu belydru.[5]

Llenyddiaeth Roeg-Rufeinig golygu

Techneg rethregol boblogaidd yn llenyddiaeth yr hen Roegiaid a'r Rhufeinwyr oedd y ddameg. Esiamplau clir a draethir er mwyn egluro rhywbeth yn amlwg oeddynt yn hytrach na straeon trosiadol neu enigmataidd.

Damhegion crefyddol golygu

Damhegion yr Iesu golygu

Traethodir nifer o ddamhegion gan Iesu Grist yn yr Efengylau, yn bennaf yn Mathew a Luc. Ymhlith y rhain mae straeon y Samariad Trugarog a'r Mab Afradlon.

Llên Ewrop golygu

O ganlyniad i bwysigrwydd damhegion yr Iesu yn y ffydd Gristnogol, daeth damhegion moesol ac ysbrydol yn boblogaidd yn llên grefyddol ac athronyddol ar draws Ewrop. Dyfeisiodd pregethwyr ddamhegion eu hunain i ddysgu moeswersi i'r ffyddlon. Yn yr Oesoedd Canol, cesglid straeon o'r fath mewn llyfrau, megis y Gesta Romanorum a Livre pour l'enseignement de ses filles.

Yn y cyfnod modern, cafodd agweddau paradocsaidd y ddameg eu hadnewyddu gan yr athronydd Søren Kierkegaard, a ail-ddywedodd stori Abraham ac Isaac yn ei waith Frygt og Bæven (1843). Ysgrifennir straeon damhegol yn yr 20g gan Franz Kafka ac Albert Camus.[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. H. J. Hughes, Gwerthfawrogi Lleyddiaeth (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1959), t. 166.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Fable, parable, and allegory. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Ionawr 2019.
  3.  dameg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 27 Ionawr 2019.
  4.  adameg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 27 Ionawr 2019.
  5.  gofeg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 27 Ionawr 2019.