Y Saith Pechod Marwol

(Ailgyfeiriad o Saith pechod marwol)
Am y llyfr gan Mihangel Morgan ewch i Saith Pechod Marwol (llyfr).

Mae rhai o ddilynwyr Cristnogaeth yn honni bod rhai pechodau’n bod sydd yn achosi pob un arall. Cyfeirir at y pechodau hyn fel y Saith Pechod Marwol[1]. Y rhestr safonol o’r saith yw chwant, glythineb, trachwant, diogi, llid, cenfigen a balchder. Mae yna hefyd restr weithredoedd da sydd yn trechu’r saith pechod sef Y Saith Rhinwedd[2]

Hieronymus Bosch Y Saith Pechod Marwol

Rhagflaenwyr Beiblaidd

golygu

Nid yw’r saith pechod marwol yn eu ffurf bresennol yn cael eu crybwyll yn y Beibl. Ond mae yna adnodau Beiblaidd sydd yn cael eu crybwyll fel rhagflaenwyr Beiblaidd i’r pechodau ac fel cyfiawnhad Beiblaidd dros eu hosgo. Er enghraifft yn Llyfr y Diarhebion 6:16-19 mae’r Brenin Solomon (awdur tybiedig y llyfr) yn ddweud Chwe pheth sy'n gas gan yr ARGLWYDD, saith peth sy'n ffiaidd ganddo: llygaid balch, tafod ffals, dwylo'n tywallt gwaed dieuog, calon yn cynllunio oferedd, traed yn prysuro i wneud drwg, gau dyst yn dweud celwydd, ac un sy'n codi cynnen rhwng perthnasau.[3]

Tarddiad y saith pechod cydnabyddedig

golygu

Mae'r cysyniad modern o'r saith pechod marwol yn gysylltiedig â gwaith y mynach o’r 4g Evagrius Ponticus, sydd yn eu rhestru yn yr iaith Roeg fel y ganlyn:[4][5]

  1. Γαστριμαργία (gastrimargia) glythineb
  2. Πορνεία (oedd porneia) rhyw, godineb
  3. Φιλαργυρία (philargyria) trachwant
  4. Ὑπερηφανία (hyperēphania) balchder - Weithiau yn cael ei alw’n hunan-oramcangyfrif
  5. Λύπη (Lype) tristwch - yn y Philokalia, mae'r term hwn yn cael ei alw’n tristwch oherwydd cenfigen am lwyddiant eraill
  6. Ὀργή (orgē) ddigofaint
  7. Κενοδοξία (kenodoxia) brolio
  8. Ἀκηδία (akēdia) acedia - yn y Philokalia, mae'r term hwn yn cael ei alw’n digalondid

Cawsant eu cyfieithu i Ladin y Gorllewin Cristnogol; yn bennaf trwy waith John Cassian. Trwy hynny daethant yn rhan o'r pietas ysbrydol neu ddefosiynau Catholig[6][7].

  1. Gula (glythineb)
  2. Luxuria / Fornicatio (chwant, godineb)
  3. Avaritia (trachwant)
  4. Superbia (balchder)
  5. Tristitia (tristwch / anobaith)
  6. Ira (llid)
  7. Vanagloria (ymffrost)
  8. Acedia (diogi)

Yn y flwyddyn 590 OC diwygiwyd y rhestr gan y Pab Gregory i ffurfio’r rhestr safonol o bechodau yn yr Eglwys Gatholig[8][9].

Y Pechodau

golygu

Yn ei gyfres Y Comedi Dwyfol ("Inferno," "Purgatorio" a "Paradiso"), mae Dante Alighieri yn rhestru’r pechodau yn y drefn isod - o’r lleiaf i’r mwyaf difrifol. Dyma’r drefn arferol o restru’r pechodau bellach [10]

Chwant

golygu

Awydd rhywiol Anghyfreithlon, megis dymuno rhyw gyda pherson y tu allan i briodas. (Diffiniad Dante yw cariad gormodol at bobl eraill, sydd yn lleihau'r cariad gall unigolyn rhoi i eraill ac at Dduw).

Glythineb

golygu

Gwastraffu bwyd. Naill ai drwy fwyta gormod o fwyd, diod neu gyffuriau, camreolaeth ar fwyd ar gyfer ei bleser neu ei blas, neu beidio â rhoi bwyd i'r anghenus

Trachwant

golygu

Cybydd-dod neu ddymuno bod yn eiddo i’r hyn sydd mwy nag sydd ei angen ar yr unigolyn neu sy’n fwy na ellir ei ddefnyddio. Mae trachwant yn cynnwys gormodedd gariad at arian a phŵer.

Mae diogi yn gwastraffu’r amser y mae Duw wedi rhoi inni am gyfnod ein bywydau. Mae diogi yn cael ei gasáu oherwydd:

  • Rhaid i bobl eraill gweithio'n galetach
  • Mae’n creu oedi ar yr hyn y mae Duw yn dymuno i berson gwneud neu yn ei rwystro rhag ei wneud o gwbl

Ddicter, casineb. Teimladau o gasineb, dial neu ddyheadau cosbol y tu allan i gyfiawnder

Cenfigen

golygu

Casáu pobl eraill am hyn sydd ganddynt. Mae Dante yn dweud bod cenfigen yn gariad at les ni’n hunain wedi ei wyrdroi er mwyn amddifadu dynion eraill o’u lles hwy

Balchder

golygu

Yr awydd i fod yn ddeniadol, neu i gael ein cyfrif yn bwysig gan eraill a chael gormod o gariad at ein hunain. Mae ein hunan bwysigrwydd a’n cariad at ein hunain yn tynnu oddi wrth y cariad a’r pwysigrwydd dylid rhoi i Dduw.

Gweler hefyd

golygu

Pwyll y Pader

Cyfeiriadau

golygu
  1. Aquinas, Thomas (2013-08-20). Summa Theologica (All Complete & Unabridged 3 Parts + Supplement & Appendix + interactive links and annotations). e-artnow. ISBN 9788074842924.
  2. Tucker, Shawn (2015). The Virtues and Vices in the Arts: A Sourcebook. Cascade. ISBN 1625647182.
  3. Beibl Cymraeg Newydd Cymdeithas y Beibl 2004 isbn:9780564031078
  4. Evagrio Pontico, Gli Otto Spiriti Malvagi, trans., Felice Comello, Pratiche Editrice, Parma, 1990, p.11-12.
  5. Evagrius of Pontus: The Greek Ascetic Corpus. Oxford: Oxford University Press. 2006-06-22. ISBN 9780199297085.
  6. Remedies for the Eight Principal Faults
  7. Cassian, St John (2000-01-03). The Institutes (arg. First). New York: Newman Press of the Paulist Press. ISBN 9780809105229.
  8. DelCogliano, Mark (2014-11-18). Gregory the Great: Moral Reflections on the Book of Job, Volume 1. Cistercian Publications. ISBN 9780879071493.
  9. Tucker, Shawn R. (2015-02-24). The Virtues and Vices in the Arts: A Sourcebook. Cascade Books, an Imprint of Wipf and Stock Publishers.
  10. Charles Allen Dinsmore, The Teachings of Dante, Ayer Publishing, 1970, p. 38, ISBN 0-8369-5521-8.]