Hanes Brasil
Dechreuodd hanes Brasil pan gyrraeddodd y bobl gyntaf tua 8,000 o flynyddoedd yn ôl o Asia; yr adeg honno roedd tir yn cysylltu Asia a chyfandir America yn y gogledd. Erbyn i'r Ewropeaid cyntaf gyrraedd yn y 16g, roedd dros 2,000 o lwythau gwahanol yn nhiriogaeth Brasil. Wedi dyfodiad y Portiwgeaid, lleihawyd niferoedd y brodorion yn fawr gan glefydau megis y frech wen.
Credir mai'r Ewropead cyntaf i ddarganfod Brasil oedd y fforiwr Portiwgeaidd Pedro Álvares Cabral ar 22 Ebrill 1500. O'r 16g hyd y 19g roedd Brasil yn rhan o ymerodraeth Portiwgal.
Yn 1808, bu raid i'r brenin Ioan VI a theulu brenhinol Portiwgal ffoi pan feddianwyd y wlad gan Ffrainc dan Napoleon. O hynny hyd 1821, o Rio de Janeiro y gweinyddid ymerodraeth Portiwgal. Yn 1815, cyhoeddodd y brenin fod Portiwgal a Brasil yn un deyrnas unedig.
Ar 7 Medi, 1822, cyhoeddodd y wlad ei hun yn annibynnol, a daeth yn frenhiniaeth gyfansoddiadol dan yr enw Ymerodraeth Brasil, gyda Pedro yn teyrnasu fel Pedro I, Ymerawdwr Brasil. Wedi i'r fyddin gipio grym yn 1889, daeth y wlad yn weriniaeth. Heblaw am dri cyfnod o lywodraeth unbennaidd yn 1930-1934; 1937-1945 a 1964-1985, mae wedi bod yn weriniaeth ddemoctataidd ers hynny.