Hanes Cymoedd y Gwendraeth a Llanelli

Cyfrol gan D. Huw Owen yw Hanes Cymoedd y Gwendraeth a Llanelli / A History of the Gwendraeth Valleys and Llanelli a gyhoeddwyd yn 2014 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]

Hanes Cymoedd y Gwendraeth a Llanelli
AwdurD. Huw Owen
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg a Saesneg
Dyddiad cyhoeddi25/07/2014
ArgaeleddAr gael
ISBN9781847719003
GenreHanes Cymru

Mae'n gyfrol sy'n trafod cefndir ardal allweddol yn hanes diweddar Cymru yn ogystal â'r ymdrechion i ddiogelu'r diwylliant lleol a'r iaith Gymraeg, er gwaethaf y newidiadau yn yr economi lleol, a bygythiadau allanol i'r tirlun.

Yn wreiddiol o Cross Hands, Sir Gaerfyrddin, mae Huw Owen bellach yn byw yn Aberystwyth. Bu'n Geidwad Darluniau a Mapiau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a chyn hynny'n archifydd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac yn ddarlithydd yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru, Aberystwyth a Choleg y Brifysgol, Caerdydd.


Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017