Mae olion archaeolegol yn sir Norfolk, Lloegr, yn dystiolaeth o aneddiadau yn yr ardal yn oesoedd Hen, Canol, a Newydd y Cerrig. Yr adeiladweithiau cynhanesyddol mwyaf sylweddol ydy'r cloddfeydd fflint megis y pyllau a elwir Grime's Graves yn Breckland. Canfuwyd hefyd siambrau claddu hirion o Oes Newydd y Cerrig a chrugiau crynion o Oes yr Efydd yn yr ardal.[1]

Map o Norfolk yn yr 17g.

Mae'n debyg i'r Celtiaid gyrraedd Dwyrain Lloegr yn y 3g CC, ac llwyth yr Iceni oedd y rhai a ymsefydlasant yn Norfolk. Yn ystod yr oes Rufeinig, dwy dref oedd yn yr ardal: Caistor St Edmund a Caistor next Yarmouth. Wedi i'r Eingl-Sacsoniaid oresgyn Lloegr yn y 6g, sefydlwyd Teyrnas Eingl y Dwyrain (Hen Saesneg: Ēast Engla Rīce) a'i thiriogaeth yn cyfateb yn fras i Norfolk a Suffolk heddiw. Yn sgil cyrchoedd gan y Daniaid, daeth yn rhan o'r Ddaenfro yn y 9g. Gorchfygwyd y deyrnas gan Edward yr Hynaf ac ymgorfforwyd yn Nheyrnas Lloegr yn 918.

Mae cofnodion Llyfr Dydd y Farn (1086) yn profi taw Norfolk oedd un o ranbarthau mwyaf ei phoblogaeth a'i chyfoeth yn holl Loegr erbyn cyfnod y Normaniaid. Ffynnodd economi Norfolk drwy gydol yr Oesoedd Canol ar sail ei diwydiant gwlân. Roedd yr ardal hefyd yn adnabyddus am gysegrfeydd Little Walsingham, y rheiny a ddenwyd pererinion am ganrifoedd. Yn ystod Rhyfeloedd Cartref Lloegr roedd y mwyafrif o'r sir yn frwd o blaid achos Cromwell a'r Pengryniaid.

Ni chafodd y Chwyldro Diwydiannol fawr o effaith ar Norfolk, ar wahân i'r rheilffyrdd a adeiladwyd. Yn niwedd y 19g, bu dirwasgiad amaethyddol yn gorfodi nifer o dirfeddianwyr i werthu eiddo a lleihau'r hen ystadau.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Norfolk. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Ebrill 2019.